Manylion y penderfyniad
Medium Term Financial Strategy (MTFS) and the Work of the Cross Party Group on Local Government Finance
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive a verbal update on the position of the MTFS, the national position on budgets, and the completion of the work of the Cross Party Group on Local Government Finance.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llafar ar sefyllfa’r Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig (MTFS), y sefyllfa genedlaethol ar gyllidebau, a chwblhau gwaith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol. Rhoddodd gyflwyniad ar y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
· ein cyd-destun
· pwrpas y Gr?p
· gwaith hyd yma
· adnoddau ar gael
· sefyllfa gyffredinol
· dadlau’r achos
· crynodeb o bwysau ariannol
· mynegeio ar gyfer chwyddiant - ysgolion
· mynegeio ar gyfer chwyddiant – ar wahân i ysgolion
· proses gyllidebol
· camau nesaf yn syth
Yn ystod y cyflwyniad cyfeiriodd y Prif Weithredwr at adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ‘Wedi cyrraedd y pwynt tyngedfennol’ gan awgrymu y byddai o ddiddordeb i Aelodau. Cytunwyd i gylchredeg yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at waith y Gweithgor Trawsbleidiol o ran y fformwla ariannu a gofynnodd a oedd cyfle i edrych ar ddyrannu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ar draws awdurdodau lleol yn seiliedig ar bwysoliad ac amddifadedd. Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Shotton a chyfeiriodd at yr angen i ystyried y gyllideb yn gyffredinol. Dywedodd bod cyfeiriad wedi bod yn y Gweithgor Trawsbleidiol at fwy o resymeg yngl?n â chostau sylfaenol ar gyfer ysgolion. Dywedodd Carolyn Thomas fod rhai o’r ysgolion yn Sir y Fflint ar y lefelau ariannu isaf yng Nghymru ac ailadroddodd ei bod yn bwysig i ysgolion gael llinell sylfaenol ariannol wrth symud ymlaen. Dywedodd y byddai’n dadlau’r achos dros gyllid i Addysg yng nghyfarfod Pwyllgor Gwaith CLlLC yr wythnos nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom, yn ei farn ef fod angen persbectif gwahanol a dull o bwysoli neu flaenoriaethu pwysau penodol nad oedd yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd. Dywedodd fod ganddo bryderon nad oedd dadgyfuno yn yr Awdurdod o bosibl yn seiliedig ar newid ac nad oedd y ffordd yr oedd rhai gwasanaethau wedi dadgyfuno o gymorth. Hefyd dywedodd bod angen mwy o ymwybyddiaeth o’r gwariant mewn portffolios. Croesawodd waith y Gweithgor Trawsbleidiol ond dywedodd fod yn rhaid i’r Awdurdod fod yn fwy democrataidd a gweithio o’r canol wrth ddadgyfuno gwasanaethau.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad ar waith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol a’r cyflwyniad.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol