Manylion y penderfyniad
Centrally Held Budgets and Corporate Finance
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with details of the central and corporate budgets as requested at a previous meeting.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad yn darparu gwybodaeth ac eglurhad am y penawdau cyllideb penodol oedd yn y cyllidebau canolog a chorfforaethol, yn unol â’r cais yn y cyfarfod blaenorol. Roedd y Gyllideb Ganolog a Chorfforaethol ar gyfer 2019/20 yn £23.498m ac yn 9% o gyllideb gyffredinol Cronfa’r Cyngor o £264m. Yn gyffredinol roedd y Gyllideb Cyllid Canolog a Chorfforaethol yn cynnwys costau canolog y sefydliad canolog ar gyfer y Cyngor nad oedd i’w priodoli’n uniongyrchol i bortffolios a gwasanaethau unigol.
Darparodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r maes cyllidebol hwn yn seiliedig ar gyllideb 2019/20 o £23.498m. Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi cefndir pellach i’r holl Aelodau cyn dechrau monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 ac fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
PENDERFYNWYD:
Bod y pwyllgor yn nodi’r esboniadau a roddwyd.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: