Manylion y penderfyniad

Draft Clwyd Pension Fund Accounts 2018/19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

For Members to consider the accounts for information.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ynghylch Datganiad Cyfrifon drafft Cronfa Bensiynau Clwyd 2018/19, a gyflwynid bellach ar wahân i Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor yn sgil newid yn y rheoliadau.  Gan fod yr awdurdod i gymeradwyo cyfrifon y Gronfa Bensiynau wedi’i ddirprwyo i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, derbyniwyd yr adroddiad hwn er gwybodaeth yn unig.

 

Yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin roedd Pwyllgor y Gronfa wedi derbyn cyflwyniad manwl yngl?n â’r cyfrifon, ac ni chododd unrhyw faterion o bwys. Cyflwynwyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft hefyd, a gâi ei gyflwyno gyda’r cyfrifon archwiliedig er cymeradwyaeth fis Medi.

 

Gan gydnabod y trefniadau llywodraethu, dywedodd Sally Ellis y byddai’n fuddiol pe byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys crynodeb o unrhyw bwyntiau’r oedd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd wedi’u codi.  Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â chynnydd mewn costau ‘gorolwg a llywodraethu’, dywedodd y Cyfrifydd fod y rhain yn deillio o waith Actiwaraidd ar ddechrau’r drefn brisio deirblynyddol, a gwaith prosiect ychwanegol ar y llwybr hedfan.

 

Ceisiodd Sally Ellis sicrwydd fod y camau i liniaru ar y risgiau coch yn llwyddo. Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gronfa Bensiynau mai’r rhain oedd y risgiau mwyaf a nodwyd wrth lunio cofrestr risg gynhwysfawr i fynd gerbron Pwyllgor y Gronfa bob tri mis.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai rhai risgiau’n aros yn goch oherwydd ansicrwydd yn y farchnad, a’r effaith yn sgil cyflwyno rheoliadau newydd. Soniodd am waith Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd i gyflwyno hyblygrwydd yn y strategaeth fuddsoddi ar sail cyngor proffesiynol mewnol ac allanol.

 

O ran amrywioldeb rheolwyr cronfeydd, cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth na fedrai’r un rheolwr unigol reoli mwy na 30% o asedau’r Gronfa. Y gyfran fwyaf oedd ym meddiant unrhyw reolwr cronfa unigol oedd 22.8%, a hynny ar gyfer rheoli’r mandad Buddsoddiadau a Ysgogir gan Rwymedigaethau, a oedd â’r nod o gadw’n gyson â phroffil aelodau’r Gronfa a’u rhwymedigaethau wrth i’r Gronfa chwyddo.  Roedd penderfyniadau strategol fel hyn yn destun adolygiad rheolaidd gan y Pwyllgor.

 

Gan gydnabod swyddogaeth Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, holodd Sally sut allai’r Pwyllgor Archwilio gyfrannu at y broses. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y sicrwydd a roes y Dirprwy Bennaeth a’r Cyfrifydd.

 

Mewn ymateb, soniodd y Prif Weithredwr am y trefniadau llywodraethu trylwyr ar gyfer y Gronfa, ac awgrymodd y dylid cyfeirio’r materion a godwyd i Bwyllgor y Gronfa er mwyn cael esboniad.

 

Tynnodd y Cynghorydd Woolley sylw’r aelodau at wall teipio yn yr adroddiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Johnson gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Paul Vaughan

Dyddiad cyhoeddi: 07/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 10/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/07/2019 - Pwyllgor Archwilio

Accompanying Documents: