Manylion y penderfyniad

Council Plan 2019/20 - Part 2

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To approve the Council Plan Part 2.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Gynllun y Cyngor 2019/20 – Rhan 2 a oedd yn darparu’r dull i fesur cynnydd a chyflawniad blaenoriaethau’r Cyngor yn Rhan 1 y Cynllun.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Rhan 1 y Cynllun wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin 2019 ac y byddai dwy ran y Cynllun ar gael ar wefan y Cyngor erbyn diwedd Gorffennaf fel dogfen a fyddai’n fwy hygyrch yn ddigidol a graffigol.

 

            Cyflwynwyd Rhan 2 y Cynllun hefyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, fel y ddogfen derfynol i’w defnyddio gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i adolygu cynnydd yn ystod y flwyddyn ar sail chwarterol.  Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Dynol ar sut y gellir mesur llwyddiant a chynnydd fel a ganlyn:

 

·         Darparu esboniadau ar ddangosyddion sydd wedi’u lleihau;

·         Cynnwys rhestr lawn o fesurau atebolrwydd cenedlaethol;

·         Trefnu gweithdy ar werth cymdeithasol;

·         Cynnwys i’w ddarparu ar gyllid a grantiau hyblyg;

·         Mae angen mwy o eglurder ar hawliadau budd-daliadau a’r hyn yr oedd y Cyngor yn ceisio ei gyflawni;

·         Esboniad o Micro-ofal (Microcare);

·         Gwybodaeth am dechnoleg ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd;

·         Gwybodaeth fwy penodol ar ofal ychwanegol ac a fyddai’r galw yn cael ei gyflawni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas ei bod yn bwysig sefydlu gwerth cymdeithasol y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

I gymeradwyo Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2019/20 i gefnogi monitro ac asesu’r cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Rhan 1 Cynllun y Cyngor, gan gynnwys y diwygiadau a awgrymwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 25/07/2019

Dogfennau Atodol: