Manylion y penderfyniad
Homelessness Update on Local Action Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To receive an update against the Local Action Plan for homelessness.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Cynghorydd Hughes gyflwyniad i’r adroddiad a oedd yn darparu diweddariad digartrefedd ar y Cynllun Gweithredu Lleol.
Roedd y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Sir y Fflint yn dilyn y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol gyda’r tri phrif nod canlynol:
· Pobl: Digartrefedd ieuenctid, pobl sy’n cysgu ar y stryd, anghenion cymhleth a phobl sy’n gadael y carchar;
· Cartrefi: Tai yn gyntaf, mynediad gwell at y cyflenwad o lety a llety dros dro;
· Gwasanaethau: Atal/ymyrraeth, diwygio lles ac iechyd.
Roedd swm sylweddol o waith wedi’i wneud i ddarparu cymorth, cyngor a chyfeirio at rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn y Sir. Roedd yn faes gwaith heriol a diolchodd i’r swyddogion am y gwaith a wnaethant.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar bobl sy’n gadael y carchar, esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai’r Cyngor yn gweithio gyda’r rhai a oedd yn breswylwyr yn Sir y Fflint neu’r rhai â chysylltiadau lleol cryf gyda’r ardal. Gofynnodd y Cynghorydd Bithell hefyd a oedd cynllun yn parhau i fodoli lle byddai cartrefi gwag yn cael eu hailddefnyddio’r o’r newydd ac atebodd y Prif Swyddog y byddai’n gwneud ymholiadau.
PENDERFYNWYD:
I gefnogi’r diweddariadau a ddarparwyd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.
Awdur yr adroddiad: Jenni Griffiths
Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/07/2019
Accompanying Documents: