Manylion y penderfyniad
North Wales Adoption Service Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an overview of the performance and
quality of the work of North Wales Adoption Service in 2018-19. The
reports set out the challenges and future objectives for
2019-2020
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi trosolwg o berfformiad ac ansawdd gwaith Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Dywedodd bod yr adroddiad yn nodi gweithgareddau allweddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2018 – Mawrth 2019 a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf ar ailddylunio/ailstrwythuro Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (2019/2020) a chyflwyno’r elfen gwasanaeth newydd ar ôl mabwysiadu o dymor y Gwanwyn 2020. Gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau i gyflwyno’r adroddiad.
Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau y wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr Adroddiad Blynyddol a’r Adolygiad Ansawdd Gofal (2018/19) a’r Achos Busnes ar gyfer ei adolygu gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Eglurodd bod yr Adroddiad Blynyddol yn ddogfen eang oedd yn ceisio nodi gwaith a threfniadau cyfreithiol, ariannol a staffio Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Adroddodd ar y meysydd allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Gofynnodd yr aelodau sut oedd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cymharu â’r gwasanaeth oedd yn cael ei gynnig i fabwysiadwyr posibl yn y sector preifat.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod mabwysiadwyr posibl yn derbyn gwasanaeth gwell na gwaeth yn y sector preifat na’r hyn a ddarparwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a dywedodd ei fod yn fater o ddewis personol. Fodd bynnag, nododd ansawdd y gefnogaeth ac arweiniad a ddarperir gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru i fabwysiadwyr.
Cefnogodd y Cynghorydd Paul Cunningham y gwaith ardderchog a gyflawnwyd gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a’r Panel Mabwysiadu.
Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie bryderon o ran recriwtio a chyfeiriodd at y cynigion yn yr ‘achos busnes’ oedd ynghlwm yr adroddiad. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd a dywedodd nad oedd yn ymwybodol o faterion penodol o ran recriwtio o fewn yr Awdurdod cynnal. Wrth wneud sylwadau ar y cynnig yn yr ‘achos busnes’ i greu swyddi ychwanegol, dywedodd bod cyllid grant ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gost. Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau pellach a godwyd gan yr Aelodau, cytunwyd y byddai adroddiad arall i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym Mawrth 2020.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd David Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol (Ebrill 2018 – Mawrth 2019);
(b) Nodi’r cynnydd mewn perthynas ag Adolygiad Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Hydref 2019); a
(c) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diwygiedig ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ym Mawrth 2020
Awdur yr adroddiad: Jane Davies
Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/12/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: