Manylion y penderfyniad

Council Plan 2019/20

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update on the actions to complete the review of the Council Plan 2019/20 in readiness for recommendation to Council for adoption.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ynghylch y broses flynyddol i gwblhau’r adolygiad o Gynllun y Cyngor 2019/20.  Byddai Rhan 1 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan y Cabinet i’w argymell i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ar 18 Mehefin.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y prif ganlyniadau o’r ddau weithdy ar gyfer Aelodau gan nodi newidiadau ers Cynllun y Cyngor 2018/19.  Hefyd cafodd nifer o awgrymiadau eu cynnwys i wella’r broses ar gyfer cymryd rhan yn y dyfodol gan gynnwys gwell alinio rhwng themâu Cynllun y Cyngor a rhaglenni gwaith i’r dyfodol Trosolwg a Chraffu. Byddai Rhan 2 o Gynllun y Cyngor, yn cynnwys manylion am fesurau perfformiad, yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor yng Ngorffennaf cyn cael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Wrth siarad am y broses dywedodd y Cynghorydd Heesom fod yr amseriad yn golygu nad oedd cyfle i alw’r penderfyniad i mewn. Ailadrodd ei bryderon am yr angen i allu blaenoriaethu meysydd penodol o Gynllun y Cyngor a dywedodd nad oedd y Cynllun Cludiant Integredig yn delio â mater strategaeth coridor cludiant oedd yn hanfodol i’r thema Cyngor Uchelgeisiol. Dywedodd fod gormod o ffocws ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac nad oedd cysylltiadau synhwyrol ag ardal ehangach Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cynllun y Cyngor yn cael ei fabwysiadu bob blwyddyn a’i fod ond yn cynnwys camau y gallai’r Cyngor eu cyflawni, h.y. swyddogaethau’r Cyngor. Yn y Cyngor Sir, byddai cyfle i Aelodau gynnig newidiadau a ddylai fod yn benodol, ymarferol a hyfyw. Roedd yr un statws i bob un o’r themâu yng Nghynllun y Cyngor ac roeddent wedi’u cynnwys yn y gyllideb i’w darparu o fewn y flwyddyn. Os cytunwyd yn y gweithdy Aelodau, roedd adborth wedi’i gynnwys ac roedd yr arolwg dilynol wedi ennyn ymatebion gan ddim ond 17 Aelod.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Roberts sylwadau’r Cynghorydd Heesom am ymwneud Aelodau gan fod y broses ymgynghori wedi bod yn gynhwysol gyda chyfle pellach i drafod yn y Cyngor Sir. O ran cludiant, dywedodd fod angen eglurhad gan Lywodraeth Cymru yngl?n â’r cynigion ar gyfer Metro Gogledd Cymru tra nad oedd ffyrdd yn rhan o’r cylch gorchwyl i’r Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai wedi bod yn well cyflwyno’r cynllun yn ôl maes gwasanaeth. Yn y gweithdy, roedd wedi codi cwestiynau ynghylch hepgor ‘sicrhau cymaint â phosibl o incwm a chyflogadwyedd’ ynghyd â chyfeiriad penodol at NEETS (heb fod mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant) a Chyfiawnder Ieuenctid.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai bwriad y gweithdai oedd canfod meysydd gwasanaeth y dylid eu cynnwys yn y Cynllun drafft. Cytunodd i edrych ar y pwynt cyntaf a dywedodd fod NEETS a chyfiawnder Ieuenctid wedi’u cynnwys yn Rhan 2 o Gynllun y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts y dylai’r Cyngor fod yn falch o’i berfformiad i gynnal lefelau isel o NEETS.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mullin i Aelodau am eu cyfraniadau yn cynnwys y rhai a gymerodd ran yn y gweithdai.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Collett ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.  Pleidleisiwyd dros y cynnig, ac fe’i pasiwyd. Gwnaed cais gan y Cynghorydd Heesom i gofnodi ei fod wedi ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y diweddariad am y camau i gwblhau’r adolygiad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn barod i argymell y Cynllun i’r Cyngor ei fabwysiadau.

Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong

Dyddiad cyhoeddi: 31/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: