Manylion y penderfyniad

Communication and Administration Strategies

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

                      Cyflwynodd Mrs Williams y strategaethau drafft a dywedodd fod gan y Gronfa 43 o gyflogwyr gydag aelodau gweithredol a c47,000 o aelodau cynllun. Nod y strategaethau yw sicrhau fod pob parti yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau a bod eglurder o ran yr hyn y dylid ei gyflawni, yn cynnwys cael Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar waith. Mae’r strategaeth weinyddu yn nodi dull mwy ffurfiol ar gyfer pan nad yw cyflogwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau, felly mae’n gwbl glir i’r tîm gweinyddu beth yw’r broses uwchgyfeirio.

 

            Ar dudalen 275, tynnodd Mrs Williams sylw at y ddau newid allweddol, y cyntaf oedd nifer y diwrnodau sydd gan y tîm i ymateb i ffurflenni dechreuwyr. Mae hyn wedi newid o 15 diwrnod gwaith i 30 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl wybodaeth. Mae hyn oherwydd y trosglwyddiad i iConnect, gan fod y data bellach yn cael ei dderbyn mewn symiau llawer mwy ac yn fisol.  Yr ail newid oedd cwblhad y datganiad cydymffurfedd cyflogwr. Mae hyn wedi’i amlinellu ar dudalen 290 a bydd wedi’i sefydlu yn y strategaeth weinyddu.

Esboniodd Mrs Williams fod y newidiadau arfaethedig i’r strategaeth gyfathrebu wedi’u hamlygu drwy’r ddogfen. Cadarnhawyd nad oes angen i aelodau gyfathrebu drwy negeseuon testun gan eu bod yn gallu dewis parhau i gyfathrebu ar bapur.

            Dywedodd Mrs Williams fod modiwl hyfforddiant ar-lein ar gael, sydd yn offeryn defnyddiol sy’n rhoi cyfle i staff Cronfa Bensiynau Clwyd ddysgu am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a diweddariadau i reoliadau cyfredol. Derbynnir adborth gan yr offeryn ac mae’n rhaid i staff gael dealltwriaeth lawn o bob elfen cyn eu bod yn gallu symud ymlaen at y lefel nesaf.

            Nododd Mr Pumford efallai bod rhai aelodau nad ydynt yn berchen ar gyfrifiadur a gofynnodd a oedd yn bosib y gallai'r Gronfa golli cysylltiad â’r aelodau hynny. Cadarnhaodd Mrs Williams fod y Gronfa yn ysgrifennu at yr holl aelodau a nododd fod ganddynt hefyd y dewis i ffonio’r Gronfa. Mae’r Gronfa yn derbyn llawer iawn o alwadau ac mae’n ffordd dda iawn o gyfathrebu ag aelodau. Cadarnhawyd hefyd bod ffurflen bapur hefyd yn dderbyniol ond y strategaeth arfaethedig yw trosglwyddo i gyfathrebu digidol lle bo hynny’n bosibl.

Tynnodd Mr Hibbert sylw at wall gramadegol bychan yn y strategaeth weinyddu a dywedodd Mrs Williams y byddai’n cywiro’r gwall.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i’r Strategaethau Gweinyddu a Chyfathrebu, yn amodol ar ymgynghori â’r budd-ddeiliaid.

(b)  Bod y Pwyllgor yn dirprwyo unrhyw fân newid terfynol, yn dilyn ymgynghoriad, i’w wneud gan Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd a’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau, gydag unrhyw newid mwy sylweddol yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor i’w ystyried.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: