Manylion y penderfyniad

Responsible Investments – Clwyd Pension Fund Beliefs

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Dywedodd Mr Buckland fod Buddsoddi Cyfrifol wedi symud i’r brif ffrwd a bod buddsoddwyr bellach yn ystyried y risgiau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol (ACLl) sydd yn gysylltiedig â buddsoddiadau. Cadarnhaodd bod y Gronfa mewn sefyllfa dda iawn o ran buddsoddi cyfrifol, o’i chymharu â Chronfeydd sydd heb ystyried hyn yn y gorffennol. Nododd bod 'ABC yr ACLl’ gan Mercer ar dudalen 83 yn ganllaw defnyddiol i’r Pwyllgor a swyddogion ar gyfer y maes hwn o fuddsoddiadau. Yn yr un modd roedd adroddiad Mercer “Investing in a Time of Climate Change” yn adroddiad defnyddiol iawn i’w ystyried o ran gosod strategaeth fuddsoddi.

Bydd polisïau’r Gronfa (Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn benodol) yn cael eu hadolygu eleni ochr yn ochr â’r Prisiad Actiwaraidd, yn ogystal â’r strategaeth fuddsoddi gyffredinol.

Pwysleisiodd Mr Buckland mor bwysig oedd safbwyntiau aelodau’r Pwyllgor, felly dros yr wythnosau nesaf bydd aelodau'r Pwyllgor yn derbyn arolwg er mwyn casglu eu safbwyntiau ar sawl maes allweddol. Bydd y safbwyntiau hyn yn cael eu cynnwys yn y polisi pan fydd yn cael eu adolygu gyda’r swyddogion yn ystod yr haf. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi. Yna bydd polisi wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd i’w gymeradwyo a bydd hyn yn ffurfio rhan o Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi.

Fel y soniwyd eisoes mae tair elfen i’r ACLl. Mae ‘A’ yn canolbwyntio ar yr Amgylchedd, sydd yn haws i’w fesur yn wrthrychol o ran effaith, er enghraifft, ôl troed carbon. Mae ‘C' yn ymwneud â’r effaith gymdeithasol sydd yn anoddach i’w fesur yn wrthrychol. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys perthnasau gweithlu, arferion cyflogwr a mynd i’r afael â’r effaith gymdeithasol. Yn olaf, mae ‘Ll’ yn ymwneud â llywodraethu yn cynnwys llywodraethu corfforaethol, archwiliadau a rheolaethau mewnol.

Esboniodd Mr Buckland, fel buddsoddwr hirdymor, ei bod yn hanfodol sicrhau bod buddsoddiadau yn gynaliadwy. Er enghraifft, ar unrhyw adeg mae posibilrwydd o hyd at 100 mlynedd o ddyledion sydd wedi cronni ac sydd yn dod â’r ffactorau hyn i ffocws gan y bydd rhai o’r ffactorau amgylcheddol yn berthnasol iawn yn y cyfnod hwnnw. Felly, mae’n rhaid i fuddsoddiadau fod yn gyfrifol ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor a chwrdd â’r amcan sylfaenol i dalu budd-daliadau pan yn ddyledus i aelodau.

Disgrifiodd Mr Buckland un dull enghreifftiol o Fuddsoddi Cyfrifol o’r enw sgrinio. Pan fo buddsoddwyr yn benodol yn dewis peidio buddsoddi mewn un maes o’r economi e.e. tybaco neu danwyddau ffosil. Gall tanwyddau ffosil fod yn bwnc dadleuol iawn gyda newid hinsawdd, ond rhaid ystyried y manteision / anfanteision mewn ffordd gytbwys wrth benderfynu ar bolisi.

Yn dilyn y newyddion diweddar am newid hinsawdd, soniodd y Cynghorydd Jones am y ffaith i Theresa May awgrymu y dylai’r DU fod yn garbon niwtral erbyn 2050. Holodd beth fyddai’n digwydd i gronfa asedau PPC o ran buddsoddiadau a hefyd a oedd penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru yn wahanol i’r rhai gan Lywodraeth y DU. Ychwanegodd Mr Hibbert fod y Gronfa wedi’i chyfyngu gan fod rhaid iddynt fuddsoddi yn unol â pholisi Llywodraeth Prydain. Dywedodd Mr Everett fod y rhain i gyd yn bwyntiau teilwng. Fodd bynnag, bydd rhaid gwneud y penderfyniadau ar y polisi er lles gorau’r Gronfa. Dywedodd Mrs McWilliam fod y pwynt allweddol bob amser yn arwain yn ôl at gyfrifoldeb ymddiriedol y Gronfa, hynny yw, talu budd-daliadau pan yn ddyledus sydd yn dibynnu ar enillion hirdymor a chynaliadwy. Mewn perthynas â newid hinsawdd, pwysleisiodd hefyd pa mor werthfawr yw’r amrywiaeth o gyfleoedd ar y farchnad.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn rhoi sylwadau ar y cyflwyniad, ac yn cytuno ar y broses ar gyfer adolygu polisi’r Gronfa.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: