Manylion y penderfyniad

Pension Administration/Communications Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Mrs Williams yr adroddiad hwn a dechreuodd drwy dynnu sylw at y ffaith ei bod yn gyfnod prysur iawn o’r flwyddyn i’r Gronfa oherwydd y prisiad actiwaraidd. Ar dudalen 351, tynnodd sylw at y newid i amserlenni yn eitem A3 ar gyfer tandaliadau a gordaliadau i’r aelodau. Mae’r oedi o ran hyn yn bennaf oherwydd yr ymarfer cysoni GMP gan fod hyn yn effeithio ar y cyfrifiadau.

 

Esboniodd Mrs Williams ei bod wedi bod yn rhan o Fframwaith Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer darparu darparwyr meddalwedd gweinyddu, yn ogystal â bod yn rhan o’r adolygiad meincnodi gweinyddu gyda CIPFA. O ran yr adolygiad meincnodi, mae’r Gronfa wedi ystyried sut mae DPA yn cael eu gweithredu. Ychwanegodd Mr Everett, er bod gofynion y DPA yn bwysig, pwysleisiodd fod rhaid cael barn broffesiynol ar benderfyniadau a wnaed wrth ddefnyddio adnoddau.

 

Tynnodd Mrs McWilliam sylw at y materion canlynol;

-       Mae’r tîm cyfathrebu eisoes yn gweithio ar y pwyntiau a dynnwyd sylw atynt yn yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid.

-       Er gwaethaf yr holl bwysau gwaith, yn cynnwys y prisiad a glanhau data, mae aelodau’r tîm wedi llwyddo i gwblhau eu dyletswyddau o ddydd i ddydd.

-       Mae staff newydd yn dal i dderbyn hyfforddiant.

 

Ar y cyfan, o ystyried yr holl bwysau, mae’r tîm wedi perfformio’n dda iawn.

 

Bu i’r Cadeirydd a Mr Everett longyfarch Mrs Williams ar ei swydd newydd fel Rheolwr Gweinyddu Pensiynau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Williams a oedd unrhyw wybodaeth newydd am iConnect ar gyfer CBS Wrecsam.  Dywedodd Mrs Williams fod y tîm wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn yr ymarfer diwedd blwyddyn a datganiadau buddion aelodau, ac felly bydd cyfle i ganolbwyntio ar iConnect ar gyfer CBS Wrecsam ym mis Medi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd unrhyw wybodaeth newydd am ‘Project Apple’. Dywedodd Mrs Williams fod eitem ar wahân ar gyfer hyn ond fe gadarnhaodd bod ‘Project Apple’ wedi’i gwblhau.

           

            Soniodd Mr Middleman am yr ymateb i ymgynghoriad Trysorlys Ei Mawrhydi ac fe atgoffodd y Pwyllgor o'r cap ymadael £95k a’i bwysigrwydd o safbwynt polisi. Y cap ymadael £95k yw’r taliad diswyddo uchaf ar gyfer aelodau (yn cynnwys taliad arian parod uniongyrchol a’r gost ynghlwm â chael mynediad at fudd-daliadau pensiwn yn gynnar) sydd yn gadael cyflogaeth o fewn y sector cyhoeddus. Mae gan aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr hawl i gymryd eu budd-daliadau heb eu gostwng yn 55 mlwydd oed ar sail diswyddo.

 

            Cyfeiriodd Mr Middleman at gwestiwn Mr Hibbert, a ofynnwyd mewn perthynas ag eitem gynharach, wrth drafod i bwy yr oedd y Rheoliadau yn berthnasol. Aeth drwy rai o’r eithriadau ar dudalen 368 gan dynnu sylw at ganol y dudalen lle roedd darn yn amlinellu pwy sydd wedi’u cynnwys o fewn y Rheoliadau, hynny yw, awdurdodau lleol, y gwasanaeth sifil a’r GIG ac ati. Yn gryno, bydd y Rheoliadau yn berthnasol yn Gymru ac yn Lloegr ond ar hyn o bryd, ni fyddant yn berthnasol yn yr Alban. Dywedodd hefyd na fyddent ychwaith yn berthnasol i gyflogwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach ac felly yn yr ystyr hwnnw byddai triniaeth wahanol o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan gyflogwyr sydd yn cymhlethau pethau hefyd. Fodd bynnag, cyfeiriodd at y p?er yn ôl disgresiwn i lacio’r cap a thynnodd sylw at waelod tudalen 373 sydd yn dangos rhai o’r cyfyngiadau ac esboniodd y byddai hyn yn darparu peth hyblygrwydd pe bai’r gofynion yn berthnasol yng Nghymru.

 

Mae’r ymateb drafft ar ran y Gronfa ac mae wedi’i amlinellu ar dudalen 381. Bu i’r Pwyllgor gymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad ar y cap ymadael £95k yn Atodiad 7. Esboniodd Mr Middleman, gan ei fod yn ymateb gan Y Gronfa, ei fod yn canolbwyntio ar y materion gweithredol yn hytrach na’r agweddau polisi, sydd yn fater i Lywodraeth Cymru a’r cyflogwyr sydd wedi’u heffeithio. Roedd disgwyliad ar y pryd y byddai’r cap yn weithredol erbyn 1 Ebrill 2020. Nododd Mr Middleman y byddai’n rhaid diweddaru polisïau / prosesau’r Gronfa a chyflogwyr i gynnwys y mater hwn gan fod rhaid iddynt alinio i weithredu’r polisi yn gywir.

           

            Nododd Mr Middleman yr elfennau technegol gweithredol sydd angen eu rhoi ar waith cyn y gellir gweithredu’r cap. Er enghraifft, bydd angen cyfres o ffactorau cenedlaethol cyffredin a dyma fydd cylch gwaith Adran Actiwari'r Llywodraeth. Nodwyd hefyd na fydd y cap hwn yn effeithio ar enillwyr cyflog uchel o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn unig, gan y gallai aelod gyda chyflog o c£25k ac sydd wedi gweithio dros 40 o flynyddoedd gael ei effeithio, yn dibynnu ar pryd y bydd yn ymddeol.  

                       

            Nododd Mr Everett y taliad diswyddo ac fe bwysleisiodd Mr Hibbert pa mor bwysig yr oedd i aelodau fod yn ymwybodol o'r newidiadau i gynigion. Mynegodd Mr Hibbert ei bryderon o ran y polisi a phwy fydd yn cael eu heffeithio. Dywedodd Mr Everett y dylai unrhyw bryder mewn perthynas â’r polisi gael ei drafod drwy’r sianeli priodol.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo newid y dyddiadau yn y cynllun busnes fel y nodwyd ym mharagraff 1.01.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad ar y cap ymadael £95k sydd ynghlwm wrth Atodiad 7.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: