Manylion y penderfyniad

Pooling Investments in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor bod y Gronfa wedi trosglwyddo 4% o gyfanswm asedau’r Gronfa o ecwitïau byd-eang i’r gronfa, sy’n cyfateb i dros c£75m. O ganlyniad, bydd y Gronfa yn arbed £152k y flwyddyn mewn ffioedd Rheolwr Y Gronfa ar y mandad hwn, a dyna oedd bwriad cyfuno o’r dechrau. Arweiniodd y broses o symud asedau at gostau trosglwyddo o c£364k, fodd bynnag bydd y costau hyn yn cael eu talu’n ôl o fewn 2 flynedd a 5 mis drwy arbedion blynyddol.

Dywedodd Mr Latham y cafwyd trafodaethau am fuddsoddi mewn marchnadoedd preifat ond ei bod yn gynnar o hyd ac y bydd yn darparu diweddariadau maes o law.

Yn dilyn yr eitem flaenorol ar y rhaglen ar fuddsoddiadau cyfrifol, mae gan PPC bolisi drafft a fydd yn cael ei gyflwyno ger bron holl bwyllgorau cronfeydd Cymru i’w ystyried. Pwrpas y polisi yw gosod polisi galluogi trosfwaol y gronfa ond nid cyfyngu Cronfeydd unigol yw’r bwriad. Bydd y polisi hwn yn cael ei rannu â’r Pwyllgor ochr yn ochr â’r arolwg buddsoddiadau cyfrifol gan Mr Buckland.

 

O ran llywodraethu’r PPC, nodwyd bod cynllun gwaith bellach yn weithredol. Bydd aelodau’r Gweithgor Swyddogion a’r Pwyllgor Cydlywodraethu yn mynychu sesiwn lywodraethu a fydd yn cynnwys nifer o feysydd ar y cynllun gwaith.

Dywedodd Mrs McWilliam ei bod wedi cwrdd â’r awdurdod cynnal, Link Fund Solutions a Chadeiryddion Byrddau eraill, ar ddechrau mis Ebrill. Yn ystod y sesiwn honno, dywedodd yr awdurdod cynnal fod llawer o’r sylw yn y gorffennol wedi bod ar yr ochr fuddsoddi o gyfuno yn hytrach na’r ochr lywodraethu, yn bennaf oherwydd adnoddau cyfyngedig. Fodd bynnag, dywedodd Mrs McWilliam ei bod wedi gadael y cyfarfod yn teimlo’n gadarnhaol iawn. Ychwanegodd ei fod yn ddefnyddiol bod yr awdurdod cynnal wedi cyfaddef eu bod nawr angen canolbwyntio’n fwy ar yr ochr lywodraethu o gyfuno a’u bod o’r farn eu bod wedi dal i fyny ag eraill yn sylweddol ac yn parhau i wneud cynnydd da. Cytunwyd yn ystod y cyfarfod y byddai’r digwyddiad yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn.

Diolchodd Mr Hibbert i’r swyddogion am godi’r mater cyffredinol o lywodraethu yn ystod y Pwyllgor Cydlywodraethu. Gofynnodd hefyd a oedd gan y Gronfa atebion i’w gwestiynau blaenorol yngl?n â threfniadau llywodraethu, hynny yw, gwneud datganiad clir o ran pam nad yw aelodau’r cynllun wedi’u cynrychioli ar y Pwyllgor Cydlywodraethu, yn unol â chydymffurfiaeth neu esbonio’r egwyddorion. Cadarnhaodd Mr Latham nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ymateb ysgrifenedig eto ond y byddai’n codi’r mater eto. Mynegodd Mr Hibbert bryder gan y ceisiwyd y wybodaeth hon dros 12 mis yn ôl ac felly golyga hynny fod o leiaf pedwar o gyfarfodydd wedi’u cynnal ers hynny. Felly, roedd eisiau i’r mater hwn aros ar y rhaglen nes yr oedd wedi’i ddatrys.

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: