Manylion y penderfyniad
Interim Council Fund Revenue Budget Monitoring 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an interim in-year budget monitoring position for 2019/20 for the Council Fund and Housing Revenue Account.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Strategaeth Ariannol ac Yswiriant adroddiad i ddarparu sefyllfa monitro’r gyllideb dros dro o fewn y flwyddyn ar gyfer 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrifi Refeniw Tai. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd mai’r adroddiad dros dro oedd yr adroddiad monitro’r gyllideb refeniw cyntaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Roedd yr adroddiad yn adroddiad eithrio ar amrywiannau sylweddol a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2019/20 a chynnydd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd effaith net y risgiau sy’n dod i’r amlwg a’r amrywiannau fel y manylir yn yr adroddiad, £3.101m yn uwch na’r gyllideb a gynlluniwyd. Roedd y ffigur hwn yn seiliedig ac amrywiannau sylweddol hysbys o dros £0.100m Byddai hyn yn agored i newid yn ystod y flwyddyn.
Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid at y prif bwyntiau, fel y manylir yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at yr arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd, sefyllfa’r gyllideb o fewn y flwyddyn, a chronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi. Byddai meysydd oedd yn cael eu hystyried yn risg uchel o ran ansefydlogrwydd ariannol yn cael eu hadolygu fel rhan o’r broses fonitro fisol a’r oblygiadau’n cael eu hystyried fel rhan o’r rhagolygon yn y tymor canolig. Soniodd y Prif Weithredwr yn eithaf manwl am feysydd gorwariant a thanwariant.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at leoliadau y tu allan i’r sir a’r wybodaeth fod y rhagamcanion o orwario ar gyfer y gwasanaeth yn cynnwys costau lleoliadau allanol ar gyfer dros 150 o blant, rhai ohonynt o fewn ffin ddaearyddol Sir y Fflint. Eglurodd y Prif Weithredwr y gellid diwallu anghenion addysgol rhai plant drwy ddarpariaeth leol, ond, mai dim ond trwy ddarpariaeth allanol y gellid diwallu anghenion addysgol a gofal cymdeithasol preswyl cymhleth nifer o blant.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y gorwariant ar gostau parcio. Mynegodd bryderon yngl?n â chostau parcio a dywedodd y gallent gadw pobl draw a lleihau’r nifer sy’n dod i rai ardaloedd. Cyfeiriodd at werth cymdeithasol pobl sy’n siopa mewn trefi a bod rhai ardaloedd yn cynhyrchu mwy o incwm na’r gost o gynnal y meysydd parcio yn yr ardal honno.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn hysbysu’r Cabinet y bydd y Pwyllgor, yng nghyfarfod mis Medi, yn rhoi sylw arbennig i’r rhagamcanion o orwario mewn gofal cymdeithasol a strydoedd; a
(b) Nodi y gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo £0.471m o’r gyllideb o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi’r cyfleusterau gofal ychwanegol newydd.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: