Manylion y penderfyniad
Adjudication Panel for Wales Decision – Breach of The Code Of Conduct of Monmouthshire County Council
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i ddarparu manylion penderfyniad Panel Dyfarnu Cymru mewn perthynas ag achos Cyngor Sir Fynwy a adroddwyd yn Rhifyn 18 Llyfr Achos Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn unol â chais y Pwyllgor.
Tynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro sylw at wall argraffyddol yn argymhelliad yr adroddiad a dywedodd y dylai'r geiriad ddarllen: “ac mae'n rhannu unrhyw negeseuon neu wersi gyda'r Cynghorwyr”.
Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybodaeth gefndir a dywedodd fod y g?yn wedi deillio o dri e-bost a anfonwyd gan Gynghorydd at Brif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy mewn perthynas â mater adnoddau'r Cyngor a'i fod wedi cynnwys sylwadau garw am wrywgydiaeth. Esboniodd fod yr achos wedi cynnwys dau fater a oedd wedi ei wneud yn gymhleth, fel y manylir yn yr adroddiad, a bod yn rhaid i'r Tribiwnlys Achos wneud canfyddiadau mewn perthynas â chwe achos honedig o dorri'r Cod ynghylch chwe sylw penodol a wnaed yn y ddau e-bost a anfonwyd gan y Cynghorydd at y Prif Weithredwr. Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y toriadau honedig wedi'u crynhoi yn yr adroddiad ynghyd â'r canfyddiadau a wnaed gan y Tribiwnlys Achos o ran torri'r Cod. Roedd yr adroddiad hefyd yn crynhoi'r canfyddiadau ar sancsiwn yn unol â'r canllawiau sancsiynau a fabwysiadwyd yn ddiweddar. Atodwyd y penderfyniad llawn i'r adroddiad.
Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at y cyfeiriad yn yr adroddiad at benderfyniad APW yn 2009 ynghylch Cynghorydd o Gyngor Tref Abermaw. Wrth sôn am yr achos, dywedodd y Swyddog Monitro fod gan Gyngor Sir y Fflint bolisi ar gyfer lle byddai Aelod, er enghraifft, yn beirniadu perfformiad Swyddog, byddai’n cael ei ddwyn i sylw rheolwr atebol y Swyddog i gael ei drin yn breifat ac nid ei wneud yn gyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi dyfarniad y Tribiwnlys Achos ac yn rhannu gyda Chynghorwyr unrhyw negeseuon neu wersi sy'n deillio o'r penderfyniad y mae'n ei ystyried yn briodol.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 14/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 03/06/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/06/2019 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: