Manylion y penderfyniad

Discretionary Transport Policy Review – Outcome of consultation

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide feedback on the outcome of the consultation on the review of discretionary school & college transport policy and to consider the options available.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad oedd yn crynhoi canlyniad yr ymgynghoriad ar feysydd hawl buddion a darpariaeth ôl 16 polisi cludiant coleg ac ysgol dewisol, a gynhaliwyd fis Rhagfyr 2018.  

 

Amlinellwyd manylion llawn yn yr adroddiad; roedd yr adroddiad hefyd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac roedd yr adborth o’r cyfarfod hwnnw hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.  Darllenodd y Cynghorydd Roberts y datganiad canlynol:

 

             “Aelodau, rwy’n credu bod y penderfyniad sy’n ein hwynebu yn hynod o heriol. Fel Cyngor, rydyn ni yn falch iawn ein bod wedi sicrhau bod addysg ôl-16 ar gael i bawb ac o gael y niferoedd isaf o bobl sydd ‘Ddim mewn Addysg, Gwaith neu Hyfforddiant’ yng Nghymru. Er hynny, rydyn ni’n gwybod, fel awdurdod lleol ac yn dilyn 10 mlynedd o doriadau, fod ein gwariant net ni ar gludiant yn llawer uwch nag awdurdodau lleol eraill, yn cynnwys cludiant i ysgolion a cholegau.  Mae’n rhaid i ni gydnabod mai canlyniadau’r ymgynghoriad oedd galwad am beidio â newid y polisi sydd gennym ar hyn o bryd gan fod pobl yn amlwg yn amharod i dalu mwy am wasanaethau lleol os oes posib’ osgoi hynny.

 

            Yn anffodus, nid yw’r ffasiwn beth yn â chludiant am ddim i ysgol neu goleg yn bod – mae am ddim i’r defnyddiwr yn golygu fod yn rhaid i’r trethdalwr cyffredin dalu amdano.  Rydyn ni’n deall bod cludiant ysgol y mae angen i ni dalu amdano a’r gwahanol eithriadau o ran polisi cludiant yn ymarferol sydd wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd. Yn anffodus, mae cludiant ôl-16 ymysg y gwasanaethau am ddim hynny, sydd wedi eu gwaredu o sawl awdurdod lleol arall, nad ydynt yn gynaliadwy bellach. Ar hyn o bryd mae’n costio oddeutu £750,000 fesul blwyddyn academaidd i’w gynnal.

 

            Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Penaethiaid a chynrychiolwyr y Colegau a siaradodd ar ran Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd, a’r colegau am gydnabod yr heriau ariannol rydyn ni’n eu hwynebu fel Cyngor, ac am gefnogi cyflwyno tâl, er yn anfodlon, gyda rhai mesurau i leihau’r effaith. Rydyn ni hefyd yn diolchgar i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid am y drafodaeth a gawsant a’r penderfyniadau a wnaethant a oedd, eto, yn gweld y byddai’n rhaid cyflwyno tâl gyda mesurau i leihau’r effaith.  Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud penderfyniad heddiw. Hoffwn gynnig y canlynol felly:

 

  • O fis Medi 2020 ymlaen, dylid gosod y tâl bob tymor am gludiant ôl-16 ar uchafswm o £150 y tymor;
  • Dylai’r holl ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol neu’r coleg. Dylid talu am y mesur hwn o gronfeydd y Cyngor – nid o’r tâl am gludiant – fel budd dewisol;
  • Yn ystod y flwyddyn rhwng r?an a chyflwyno’r tâl, dylai’r Cyngor archwilio’r posibilrwydd o weithredu cronfa galedi i gefnogi teuluoedd lle mae’r tâl yn rhwystro myfyriwr rhag derbyn addysg oherwydd amgylchiadau, gan nodi hawl parhad i gludiant am ddim o dan y maen prawf lle mae’r unigolyn yn derbyn prydau ysgol am ddim; ac
  • Yn ystod y flwyddyn rhwng r?an a chyflwyno’r tâl, fel mae’r gr?p Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i awgrymu, dylai’r Cyngor edrych ar bosibilrwydd ffurf o gerdyn talu ymlaen llaw fel ‘Oyster’ a fyddai’n caniatáu i breswylwyr nad ydynt yn gallu talu’r ffi bob tymor roi arian ar eu cerdyn yn rheolaidd.

 

Byddwn yn gobeithio y gallem weithio gyda Choleg Cambria yn ystod y flwyddyn cyn cyflwyno’r costau er mwyn cynnal eu siâr o gostau cludiant. Hoffwn gynnig hefyd bod ôl-16 yn cael ei ddiffinio fel blynyddoedd 12 ac 13 o safbwynt blynyddoedd ysgolion, a bod hyn ond yn cael ei estyn mewn amgylchiadau eithriadol.”

 

Cytunodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd i Aelodau ond nad oedd y status quo yn gynaliadwy yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Pwysleisiodd bwysigrwydd bod dysgwyr yn cael eu trin yn gyfartal ac ategodd y cynigion bod plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn parhau i dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol neu’r coleg. 

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhaid i’r Cyngor barhau i dalu am elfen ddewisol ar gyfer hawl cludiant am ddim ac ar gyfer unrhyw gronfa galedi.  Byddai’n rhaid defnyddio unrhyw gronfa o’r fath yn gyson a byddai’n heriol i’r Awdurdod ei gweinyddu.  Dywedodd os oedd Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod dysgwyr â mynediad at addysg yna dylai cludiant gael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru o dan offeryn statudol.

 

Roedd yr holl Aelodau yn cytuno â chynigion y Cynghorydd Roberts, ac yn cydnabod fod hwn yn benderfyniad oedd ei angen oherwydd yr hinsawdd ariannol heriol iawn roedd y Cyngor ynddo, ac wedi bod ynddo ers nifer o flynyddoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod:

                      I.        O fis Medi 2020 ymlaen, dylid gosod y tâl bob tymor am gludiant ôl-16 ar uchafswm o £150 y tymor;

                    II.        Dylai’r holl ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol neu’r coleg. Dylid talu am y mesur hwn o gronfeydd y Cyngor – nid o’r tâl am gludiant – fel budd dewisol;

                   III.        Yn ystod y flwyddyn rhwng r?an a chyflwyno’r tâl, dylai’r Cyngor edrych a fyddai modd gweithredu cronfa galedi i gefnogi teuluoedd lle mae’r tâl yn rhwystro myfyriwr rhag derbyn addysg oherwydd amgylchiadau, gan nodi parhad yr hawl i gludiant am ddim o dan y maen prawf lle mae’r unigolyn yn derbyn prydau ysgol am ddim;

                  IV.        Yn ystod y flwyddyn rhwng r?an a chyflwyno’r tâl, fel mae’r gr?p Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i awgrymu, dylai’r Cyngor edrych ar bosibilrwydd ffurf o gerdyn talu ymlaen llaw fel ‘Oyster’ a fyddai’n caniatáu i breswylwyr nad ydynt yn gallu talu’r ffi bob tymor roi arian ar eu cerdyn yn rheolaidd;

                   V.        Bod ôl-16 yn cael ei ddiffinio fel blynyddoedd 12 ac 13 o safbwynt blynyddoedd ysgolion, a bod hyn ond yn cael ei estyn mewn amgylchiadau eithriadol; a 

 

 (b)      Bod trafodaethau yn cael eu hail agor gyda Choleg Cambria ar y lefel o gost a ail godir ar gyfer y gwasanaeth cludiant dewisol.

Awdur yr adroddiad: Gill Yates

Dyddiad cyhoeddi: 07/08/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/06/2019

Accompanying Documents: