Manylion y penderfyniad

Social Media & Internet Safety

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive an annual report assurance /monitoring

Penderfyniadau:

Gwahoddodd  y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu i gyflwyno’r adroddiad. Eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod yr adroddiad wedi'i lunio mewn ymateb i gais gan yr Aelodau am ddiweddariad ar yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2017, yn rhoi sicrwydd bod plant a phobl ifanc yn ysgolion Sir y Fflint yn derbyn cefnogaeth briodol i ddatblygu eu sgiliau o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn ddiogel. 

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd Lles a Diogelu wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd. Tynnodd sylw at y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, hunanwerthusiad diogelu Estyn, llwyfan Hwb, 360 Degree Safe Cymru, Rhaglenni Cyswllt Ysgolion Craidd Cymru Gyfan a’r Diwrnod Defnydd Mwy Diogel o’r Rhyngrwyd.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon am seiber fwlio a'r defnydd amhriodol o'r cyfryngau cymdeithasol a soniodd am yr angen i ddefnyddio technoleg yn gyfrifol a gyda pharch. Awgrymodd y dylai aelodau fod yn ystyriol o'u defnydd eu hunain o'r cyfryngau cymdeithasol a'r angen iddynt osod esiampl i bobl ifanc. 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a gododd y Cadeirydd roedd pob aelod o’r Pwyllgor wedi gwneud addewid na fyddent yn ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol mewn modd a fyddai'n difenwi pobl eraill.

 

Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am y defnydd cynyddol o'r cyfryngau cymdeithasol ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd a darpariaeth technoleg a alluogir gan y rhyngrwyd sy'n newid ac yn datblygu'n gyflym.  Cynigiodd y dylid cynnwys eitem ar y cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd mewn ysgolion yn rheolaidd yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a chytunodd yr aelodau â hyn.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Patrick Heesom yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu am eu hadroddiad cynhwysfawr a dywedodd y byddai'n ddefnyddiol pe bai modd anfon copi ymlaen at yr holl Aelodau er gwybodaeth ar ôl y cyfarfod.

 

Yn ystod trafodaeth ymatebodd yr Ymgynghorydd Dysgu i gwestiynau a sylwadau a godwyd gan aelodau am ymwybyddiaeth rhieiniol a soniodd am y mentrau mewn ysgolion i ymgysylltu â rhieni a rhannu arfer da er mwyn cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein  wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn cadarnhau eu bod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd am y cynnig addysgol mewn ysgolion mewn perthynas â diogelwch ar-lein gan gynnwys y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol;

 

(b)      Bod yr Aelodau’n ymrwymo i osod esiampl i bobl ifanc o ran y modd y maen nhw eu hunain yn ymgysylltu a’r cyfryngau cymdeithasol.

 

(c)       Bod yr Aelodau'n cefnogi camau i wahodd yr holl Gynghorwyr i wneud y fath ymrwymiad; a

 

(d)      Bod copi o’r adroddiad ar gael i'r holl Gynghorwyr.

 

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 15/08/2019

Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: