Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT/CERBYD HACNI

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).Eglurodd fod y cais wedi’i gynnwys yn Atodiad A, gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn Atodiad B, eglurhad ysgrifenedig yr ymgeisydd yn Atodiad C, gwybodaeth am y gollfarn yn Atodiad D a Chanllawiau Cyngor Sir y Fflint ar ddelio â chollfarnau, rhybuddion a chosbau eraill yn Atodiad E.Dywedodd nad yw’r ymgeisydd wedi bod 10 mlynedd heb gael collfarn, fel y nodir yn y canllawiau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddedfryd yr ymgeisydd i garchar a gofynnodd i’r ymgeisydd yn lle cafodd ei charcharu.Dywedodd yr ymgeisydd ei bod wedi’i hanfon i Garchar Style i ddechrau ac yna ei symud i Durham Lower Newton ac yna i Efrog.Pan ofynnwyd iddi pam y cafodd ei symud, cadarnhaodd ei bod wedi’i symud er mwyn cael ei throsglwyddo i garchar agored.Gofynnodd y Cadeirydd am ba hyd y buodd yn y carchar a dywedodd ei bod wedi bod yn y carchar am dri mis, wedi gwisgo tag am 3 mis ac wedi bod ar brawf am chwe mis.

 

Holodd y Cadeirydd am ei gwaith ac a oedd hi'n mwynhau.Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei bod yn rheolwr garej ac er ei bod yn mwynhau roedd arni eisiau newid gyrfa.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gwrandawiad yn Llys y Goron a’r geirdaon a ddarparwyd i’r llys a holodd sut broses y bu honno iddi.Cadarnhaodd ei bod wedi pledio’n euog ac na fu'n rhaid iddi fynd i wrandawiad.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Cox at ddifrifoldeb cyflenwi cyffuriau dosbarth A a holodd yr ymgeisydd a oedd yn arfer cymryd cyffuriau a pham ei bod wedi cytuno i dderbyn y pecynnau.Dywedodd yr ymgeisydd nad yw erioed wedi cymryd cyffuriau a’i bod yn cofio hanes trist Leah Betts.Roedd hi wedi cyfarfod dau ddyn pan oedd yn bymtheg mlwydd oed a bu iddynt feithrin cyfeillgarwch a ddatblygodd dros y blynyddoedd.Yn ddiweddarach, ar ôl iddi gael ei mab a dod yn fam sengl a phan oedd yn byw gyda’i chwaer a’i nai ar fudd-daliadau, bu iddynt ddod ati a chynnig arian iddi am dderbyn parseli.

 

Gofynnodd y Cadeirydd faint oedd oed ei mab r?an. Dywedodd yr ymgeisydd bod ei mab yn ddeunaw ac yn mynd i’r coleg.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at dudalen 13, yr adroddiad DBS sy’n amlinellu dwy gollfarn yn 1998, a gofynnodd i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am y rhain.Dywedodd yr ymgeisydd fod ffrind iddi wedi gwahanu oddi wrth ei gariad a’i bod wedi’i harestio am godi dau fys at y cyn-gariad a’i dedfrydu am ystumio.Pan ofynnodd y Cadeirydd pan nad oedd y drosedd hon wedi’i chynnwys ar y ffurflen gais dywedodd yr ymgeisydd ei bod wedi anghofio amdani gan fod llawer iawn o flynyddoedd wedi mynd heibio.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y gollfarn yn ymwneud â chyffuriau a gofynnodd sut y bu iddi gwrdd â’r dynion hyn.Cadarnhaodd ei bod yn 15 mlwydd oed ac wedi’u cyfarfod mewn gorsaf betrol leol.Ymhen amser daethant yn ffrindiau a chafodd ei gwahodd i bartïon ac ati. Nid oedd ganddi unrhyw syniad o’r hyn oedd yn mynd i ddigwydd gan fod un o’r dynion yn athro Saesneg.Un Nadolig, pan oedd ei mab yn ddeng mlwydd oed a hithau’n cael trafferthion ariannol, bu iddynt ddod ati ac yna dechreuodd y parseli gyrraedd o Jamaica bob tair wythnos.

 

 

Gofynnwyd a fu iddynt egluro beth oedd yn y parseli, atebodd yn dweud na chafodd eglurhad ond ei bod yn poeni ei bod yn gwneud rhywbeth anghyfreithiol.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr beth wnaeth iddi gwestiynu hynny.Dechreuodd y parseli gyrraedd yn amlach gyda labeli cynnyrch gwallt arnynt.Ar ôl dau neu dri mis dywedodd wrth y dynion nad oedd eisiau derbyn y parseli ond bu iddynt ei bygwth gan ddweud eu bod yn gwybod lle’r oedd ei theulu’n byw.Roedd gan y dynion arfau a bu iddi barhau i dderbyn y parseli oherwydd bod ofn arni.8 mis yn ddiweddarach cafodd un o’r parseli eu danfon i gymydog mewn camgymeriad, agorwyd y parsel gan y cymydog a ffoniodd yr Heddlu.

 

Gofynnwyd faint a dalwyd iddi am dderbyn y parseli. Dywedodd ei bod yn cael £500 y parsel.Gofynnwyd wedyn pa mor aml y byddai’n derbyn parsel. Dywedodd y bu iddi dderbyn parsel unwaith bob tair wythnos am bron i flwyddyn.

 

Dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn gwybod ei bod yn gwneud rhywbeth o'i le ond nad oedd yn gwybod mai cyffuriau dosbarth A oeddynt tan ar ôl iddi gael ei harestio.Eglurodd fod yr Heddlu wedi arestio ei chwaer i ddechrau ond bu iddi ddweud popeth wrth yr Heddlu a chael ei harestio.Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd hi’n teimlo’n ddiamddiffyn. Dywedodd bod ganddi ofn peryglu diogelwch ei theulu.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr, wrth edrych yn ôl, beth yw ei barn am ddifrifoldeb y sefyllfa r?an.Mewn ymateb, dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn teimlo’n wirion gan ddweud ei bod yn anaeddfed ac wedi peryglu diogelwch ei mab a’i theulu, ac y dylai hi fod wedi agor y parseli.Mae’r ymgeisydd yn difaru popeth.

 

Eglurodd y Cyfreithiwr bod yn rhaid i’r panel benderfynu a yw’r ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded a gofynnodd i’r ymgeisydd egluro pam ei bod hi’n teimlo ei bod yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded. Mewn ymateb dywedodd wrth y panel ei bod wedi gweithio dros sawl blwyddyn i ddod yn rheolwr y garej.Roedd hi’n gyllidol ddiogel ac wedi newid ei bywyd er gwell ac yn dymuno newid gyrfa.Mae hi’n mwynhau gyrru a dywedwyd wrthi ei bod yn dda gyda phobl.Roedd hi hefyd yn gweithio gyda phlant yn y Clwb Criced.

 

Gofynnwyd iddi a oedd hi erioed wedi cymryd cyffuriau neu’n yfed alcohol.Dywedodd nad oedd erioed wedi cymryd cyffuriau ond ei bod yn yfed alcohol o bryd i’w gilydd.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr a yw’r dynion wedi ceisio cysylltu â hi ers iddi adael y carchar.Cadarnhaodd yr ymgeisydd nad yw’r dynion wedi bod mewn cysylltiad a bod un wedi’i alltudio. Nid yw’n gwybod beth yw hanes y llall.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at dudalen 14 o'r pecyn ac at ddwy drosedd ar 1 Awst 2008 ac 17 Awst 2008 gan ofyn am eglurhad.Ymddiheurodd yr ymgeisydd gan ddweud nad oedd hi’n gwybod at beth mae’r rhain yn cyfeirio atynt.

 

 

Penderfynu ar y Cais

 

Wrth benderfynu ar y cais rhoddodd y panel ystyriaeth i sylwadau llafar ac ysgrifenedig yr ymgeisydd, a chanllaw y Cyngor ar drin collfarnau.

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

Wrth benderfynu ar y cais ystyriodd yr Is-bwyllgor ganllawiau’r Cyngor ar drin â chollfarnau, rhybuddion, cyhuddiadau troseddol a chosbau eraill a gofnodir a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

            Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaethpwyd, bod y panel yn cytuno bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas a bod modd iddi ddal trwydded yrru cerbyd hacni/ hurio preifat.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd bod yr Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl sylwadau ac wedi penderfynu ei bod yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) a’i bod yn cael trwydded am 12 mis.Ar ôl i’r 12 mis ddod i ben, ac os yw’r ymgeisydd yn dymuno gwneud cais am drwydded arall, byddai’n rhaid iddi wneud cais am drwydded newydd a thalu am hynny o’i phoced ei hun, gan gynnwys costau a ffioedd gwiriadau gan gynnwys gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o gofnodion troseddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid cymeradwyo'r cais am drwydded.

 

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 10/04/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/04/2019 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •