Manylion y penderfyniad
NEWydd Catering and Cleaning Progress Review
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review progress of NEWydd since
establishment in 2017
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i alluogi'r Pwyllgor adolygu cynnydd NEWydd ers ei sefydlu yn 2017.Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahodd Rob Lawton, Rheolwr Gweithrediadau, a Steve Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, i adrodd ar ddatblygiad y trawsnewid ac ar Gynllun Busnes NEWydd ar gyfer 2019/20-2021/22.
Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr gyflwyniad a oedd yn ymdrin â’r prif bwyntiau:
· Trosolwg
· Perfformiad ariannol
· Blwyddyn 2
· Cynllun Busnes 2019/20
· Risgiau a mesurau lliniaru
Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am brydau ysgol, mentrau bwyta’n iach a lles, gwasanaethau glanhau, recriwtio a chadw staff, polisi cyflogau, pensiynau a threfniadau llywodraethu.Gofynnodd yr Aelodau hefyd gwestiynau am y cyfleoedd sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau i’r sector preifat.
Yn ystod y drafodaeth dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn parhau i feithrin perthynas agos a rhagweithiol gydag Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig a bod y cwmni yn dda iawn am gynnwys y Cyngor yn ei benderfyniadau busnes. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn parhau i chwarae rhan lawn wrth gefnogi Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig i gynnal y perfformiad yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Diolchodd y Cadeirydd i Steve Jones a Rob Lawton am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Mai 2017 ac yn canmol ei berfformiad; a
(b) Nodi’r heriau ynghlwm wrth gynnal perfformiad y busnes;
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 15/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/05/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol