Manylion y penderfyniad

Welfare Reform Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the impact of Welfare Reform on Flintshire residents

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau Sian Humphreys a Dawn Barnes a arweiniodd y tîm Ymateb Lles. Fe wnaethant roi cyflwyniad ar waith eu tîm i gefnogi cartrefi yr oedd y diwygiadau yn effeithio arnynt, a oedd yn ymdrin â'r canlynol:

·         Cefndir

·         Effeithiau cyfredol Diwygiadau Lles

·         Cyfran uchaf y preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y ‘Dreth Ystafell Wely’

·         Llwyth achosion Credyd Cynhwysol (UC)

·         Aelwydydd y mae'r Cap Budd-daliadau yn effeithio arnynt

·         Cefnogaeth Tîm Diwygio Lles

·         Taliadau Tai Dewisol (DHP)

·         Ebrill 2019 - Beth Newidiodd

·         Ymgysylltu rhagweithiol

·         Astudiaeth achos

 

Dangosodd y dadansoddiad mai Treth Ystafell Wely oedd yr effaith fwyaf o hyd ar breswylwyr yn Sir y Fflint, gan effeithio ar 677 o aelwydydd ym mis Mawrth 2019. Dyfarnwyd cyfanswm o 979 o geisiadau DHP yn 2018/19, a nodwyd y Dreth Ystafell Wely fel y prif reswm. Dull cyfannol y tîm oedd archwilio pob opsiwn i gefnogi unigolion gan gynnwys ymyrraeth gynnar a helpodd i liniaru'r effaith ar wasanaethau eraill, er enghraifft atal digartrefedd. Roedd y penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn golygu bod Cymorth Cyffredinol yn cael ei ddarparu bellach gan Cyngor ar Bopeth drwy’r broses ‘Help i Hawlio’.


Ailadroddodd y Cynghorydd Shotton ei bryderon ynghylch y broses Help i Hawlio a oedd yn eithrio cymorth cyllidebu personol, sydd mawr ei angen. Siaradodd y Rheolwr Budd-daliadau am ba mor bwysig yr ydoedd i'r tîm barhau â'r gefnogaeth honno, er heb gyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Er na phennwyd canlyniadau'r broses Help i Hawlio ar hyn o bryd, roedd pryderon mai dim ond tan y dyddiad pan dderbyniodd cwsmeriaid eu taliad Credyd Cynhwysol llawn cyntaf y darparwyd y gefnogaeth.

 

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o waith y tîm, awgrymodd y Cynghorydd Dolphin y gallai'r Aelodau helpu neu y gallai'r tîm ymgysylltu'n uniongyrchol â thrigolion mewn digwyddiadau cymunedol lleol. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y tîm yn bwriadu mynychu dwy ?yl leol sydd ar y gorwel ac roedd hi'n croesawu ceisiadau iddynt fynd i ddigwyddiadau tebyg. Ar y model Help i Hawlio, roedd mynediad at ddata yn broblem ond byddai'r tîm yn parhau i fonitro cynnydd. O ran y Dreth Ystafell Wely, cytunodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n aros i symud i lety llai, gan gynnwys y 58 o bobl yr adroddwyd amdanynt ym mis Hydref 2017. Er mai datrysiad tymor byr oedd DHP, parhaodd y gefnogaeth honno os nad oedd opsiwn arall ar gael.

Awgrymodd y Cynghorydd Brown y gellid cynnwys taflen ar fentrau fel y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor (CTRS) gyda biliau Treth y Cyngor a Datganiadau Rhent, a gellid ei dosbarthu mewn cynlluniau chwarae haf. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y gostyngiad mewn hawliadau CTRS wedi bod yn bryder a bod hawlwyr cymwys yn cael eu tracio a'u monitro i helpu gydag ailgyflwyno hawliadau. Roedd hyrwyddo'r CTRS yn cael ei symud ymlaen trwy weithgor mewnol a fyddai'n croesawu syniadau gan yr Aelodau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Brown hefyd at nifer y tenantiaethau diogelu sy'n derbyn cefnogaeth gan y tîm ac awgrymodd y dylid ailsefydlu'r cyn Fwrdd Diwygio Lles. Gofynnodd a oedd aelodau o'r tîm ar gael i fynychu Carnifal Penarlâg sydd yn digwydd yn fuan.

 

Mewn ymateb i sylwadau'r Cynghorydd Dolphin am bwysigrwydd rhoi cyhoeddusrwydd i gynlluniau disgownt / eithrio, dywedodd y Rheolwr Refeniw fod y timau wedi'u hyfforddi i nodi unigolion cymwys a chyfeirio at y cynlluniau hynny, er enghraifft yr ymgyrch ddiweddar i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun eithrio Treth y Cyngor ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis â ‘nam meddyliol difrifol'. Ar y mater olaf, byddai cysylltiadau â'r Bwrdd Iechyd yn helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r cynllun hwnnw gyda meddygon teulu.

 

Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Brown, byddai'r Rheolwr Refeniw yn ystyried mewnosod nodyn briffio yn y datganiad rhent chwarterol. Dywedodd y Prif Swyddog y gallai manylion cynlluniau o’r fath gael eu hyrwyddo gyda’r wasg leol a thrwy’r fenter ‘Fy Nghyfrif’ yr anogwyd Aelodau i annog preswylwyr gofrestru ar ei gyfer.

Dywedodd y Cynghorydd Cox y dylid casglu cyflawniadau'r Cyngor ar adfywio mewn llyfryn i'w ddosbarthu'n ehangach i dynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn Sir y Fflint.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Johnson y dylid defnyddio adnoddau mewnol i godi ymwybyddiaeth o rif cyswllt y tîm Ymateb Lles, e.e. faniau'r cyngor a bysiau a ariennir gan y Cyngor. Dywedodd y Prif Swyddog fod cerbydau fflyd Tai wedi cael eu defnyddio at ddiben tebyg ac y byddai'r dull hwn yn cael ei archwilio ymhellach.

 

Yn ystod y cyfarfod, canmolodd nifer o Aelodau waith y tîm i liniaru effeithiau negyddol Diwygio Lles gan gynnwys ymgysylltu rhagweithiol ag unigolion a allai fod mewn perygl. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad a'u hymatebion i gwestiynau.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Shotton a'i eilio gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r adroddiad a'r gwaith parhaus i reoli'r effeithiau y mae Diwygio Lles yn eu cael ac y bydd yn parhau i'w cael ar aelwydydd mwyaf bregus Sir y Fflint.

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 26/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: