Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y Cyd), wedi’i thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu nifer o euogfarnau blaenorol. Ar ôl derbyn manylion datgeliad uwch cofnodion troseddol yr ymgeisydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), dangoswyd dwy euogfarn, yn dyddio o 1995 a 2013, am bum trosedd ar wahân. Roedd manylion llawn yr euogfarnau wedi’u cynnwys mewn atodiad i’r adroddiad. Dychwelwyd adroddiad Ymholiad Gwrthrych Data D199 gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a oedd yn cynnwys rhagor o fanylion am y troseddau ar y drwydded yrru DVLA a ddatgelwyd gan yr ymgeisydd. 

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu esboniad ysgrifenedig o’i euogfarnau ac roedd hwn wedi’i gynnwys mewn atodiad i’r adroddiad. Oherwydd nifer yr euogfarnau a’u natur, cafodd yr ymgeisydd ei wahodd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gais yr ymgeisydd am Drwydded Yrru (ar y Cyd) a gofynnodd am ragor o wybodaeth yngl?n â’i fanylion gwaith presennol a blaenorol, a’i uchelgais ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd i’r ymgeisydd a oedd y cais ar gyfer gyrru tacsi neu Gerbyd Hurio Preifat, a oedd yn golygu gyrru am gryn amser a chludo teithwyr yn ddiogel i’w cyrchfan, a gofynnodd iddo petai’n llwyddiannus a fyddai’n gallu deall teithwyr a chynnal sgwrs gyda nhw am eu harcheb a’u taith.  Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod yn gallu deall cyfarwyddiadau a sgwrsio gyda theithwyr. Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyeddedu fod yr ymgeisydd wedi cael prawf gwybodaeth am yr ardal leol fel rhan o’i broses ymgeisio a’i fod wedi llwyddo i safon uchel. 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r ymgeisydd gynnig esboniad llawn o’i euogfarnau blaenorol a nodwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr esboniad ysgrifenedig a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad a rhoddodd wybodaeth am y troseddau a gyflawnwyd. 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau’r Panel holi’r ymgeisydd. Gofynnodd y Panel am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd yngl?n â’r amgylchiadau a oedd wedi arwain at ei euogfarnau.

 

Cafodd yr ymgeisydd ei holi’n fanwl gan y Cyfreithiwr am ei euogfarnau fel y’u cofnodwyd ar ei gofnod DBS a’i esboniad ysgrifenedig o’r euogfarnau yn 1996 a  2013.  Gofynnodd gwestiynau manwl i’r ymgeisydd yngl?n â’i esboniad ysgrifenedig o ran ei euogfarnau yn 2013 a dywedodd ei fod wedi dweud nad oedd “y naill barti na’r llall wedi cael niwed” yn y digwyddiad.  Gofynnodd i’r ymgeisydd beth oedd ei ddealltwriaeth o ystyr y gosodiad hwn a gofynnodd iddo gadarnhau a oedd yn gywir. Cafodd yr ymgeisydd ei holi gan y Cyfreithiwr a gofynnwyd iddo esbonio amgylchiadau’r drosedd honno a’r camau a gymerwyd ganddo ar y pryd. Esboniodd yr ymgeisydd gan fod yr euogfarnau wedi digwydd sawl blwyddyn yn ôl nad oedd yn gallu cofio’r holl fanylion yn ymwneud â throsedd 2013 na’r troseddau blaenorol. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd pan gyrhaeddodd y Deyrnas Unedig nid oedd yn llawn ddeall cyfraith y Deyrnas Unedig o ran traffig ffyrdd a gyrru cerbydau modur preifat.  Dywedodd ei fod yn edifar ganddo am yr hyn a wnaeth yn y gorffennol ac roedd yn addo petai’n gysylltiedig â digwyddiad tebyg yn ymwneud â cherbyd yn y dyfodol y byddai’n ymateb mewn ffordd gyfrifol ac yn unol â chyfraith y DU.  

 

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn ystyried ei hun yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded, atebodd yr ymgeisydd yn gadarnhaol. Atebodd y cwestiynau a godwyd yngl?n â’i amgylchiadau personol a theuluol ac esboniodd ei fod yn dymuno cynnig bywyd gwell a mwy sefydlog i’w hun a’i deulu. 

 

                        Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u codi, gofynnodd i’r ymgeisydd, y cyfieithydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu, adael y cyfarfod er mwyn i’r Is-bwyllgor ddod i benderfyniad yngl?n â’r cais.       

 

3.1       Dod i Benderfyniad yngl?n â’r Cais  

 

Wrth ddod i benderfyniad yngl?n â’r cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor ganllawiau ar drin euogfarnau, rhybuddion, cyhuddiadau troseddol neu sancsiynau eraill a gofnodwyd a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

 Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol yn ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i ddal Trwydded Yrru Hurio Preifat /Cerbyd Hacni (ar y Cyd). Fodd bynnag, oherwydd pryderon y panel ynghylch nifer y troseddau a’u natur, a’r rhesymau a roddodd dros yr anghysonderau yn ei esboniad am drosedd benodol, cytunwyd y dylid caniatáu Trwydded Hurio Preifat /Tacsi 12 mis yn hytrach na Thrwydded 3 blynedd. Pan ddaw’r Drwydded 12 mis i ben, petai’r ymgeisydd yn dymuno gwneud cais am Drwydded arall, byddai’n rhaid iddo wneud cais am Drwydded newydd ar ei gost ei hun gan gynnwys unrhyw gostau a ffioedd a fyddai’n deillio o wiriadau fel gwiriad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

                        Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu, yr ymgeisydd, a’r cyfieithydd i ddychwelyd i’r ystafell a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

3.2       Penderfyniad

           

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl sylwadau ac wedi penderfynu fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y Cyd) a rhoddwyd trwydded 12 mis iddo. Pan ddaw’r Drwydded 12 mis i ben, petai’r ymgeisydd yn dymuno gwneud cais am Drwydded arall, byddai’n rhaid iddo wneud hynny ar ei gostau ei hun gan gynnwys unrhyw gostau a ffioedd a fyddai’n deillio o wiriadau fel gwiriad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

CYTUNWYD:

 

(a)          Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i fod ym meddiant Trwydded Yrru Hurio Preifat /Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a rhoddwyd trwydded 12 mis i’r ymgeisydd; a hefyd

 

(b)      Pan ddaw’r drwydded 12 mis i ben, petai’r ymgeisydd yn gwneud cais newydd am Drwydded Yrru Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y Cyd), byddai’r costau sy’n gysylltiedig â’r cais gan gynnwys unrhyw gofnodion troseddol a gwiriadau fetio eraill ar ei gostau ei hun.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 01/05/2019

Dyddiad y penderfyniad: 07/03/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/03/2019 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •