Manylion y penderfyniad
Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2018/19.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr grynodeb lefel uchel o gynnydd Cynllun y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn a oedd yn darparu dadansoddiad o feysydd o danberfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Derbyniodd y Pwyllgor atodiad diwygiedig a oedd yn cynnwys newidiadau bach. Rhoddwyd trosolwg o’r dangosyddion perfformiad â statws coch, byddai rhai o’r rheiny’n cael eu cyflawni dros amser gan fod y gwaith yn parhau. Roedd yr holl risgiau coch yn faterion mynych ac roedd rhai ohonynt yn deillio o effaith wedi’i oedi neu ffactorau allanol.
Ailadroddodd y Cynghorydd Richard Jones ei bryderon cynharach yngl?n â gwybodaeth a oedd yn angenrheidiol i’w darllen ochr yn ochr â’r adroddiad yn cael ei rhannu’n hwyr. Mewn ymateb i sylwadau am y model arfarnu corfforaethol diwygiedig, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn gwella safon arfarniadau a’i fod yn gysylltiedig â hyfforddiant, ac y byddai’r targed cwblhau o 100% yn parhau. O ran nifer y bobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol, dywedodd y Prif Weithredwr bod cymharu â chyfartaledd Cymru yn berthnasol a bod llawer iawn o waith yn mynd ymlaen oherwydd y materion niferus dan sylw. Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
Cododd y Cynghorydd Heesom bryderon yngl?n â diffyg gwybodaeth am feysydd risg uchel o dan y thema Cyngor Uchelgeisiol megis Cynllun Twf Gogledd Cymru a oedd yn hanfodol i economi Sir y Fflint.
Atgoffodd y Prif Weithredwr y Cynghorydd Heesom mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi crynodeb o gynnydd o ran cynnwys Cynllun y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn, fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Rhoddodd ddiweddariad cryno am gynnydd y Fargen Dwf y byddai Sir y Fflint yn elwa ohoni. Mewn ymateb i sylwadau pellach, rhoddodd y Cynghorydd Thomas eglurhad am y fframwaith datblygu cenedlaethol ac ymatebodd i sylwadau am gyllid a geisiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd.
Ar y dangosyddion perfformiad coch, dywedodd y Cynghorydd Banks bod y cynnydd yn bositif gyda’r datblygiad tai Cyngor yng Ngronant a chwblhad Grantiau Cyfleusterau I'r Anabl.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Heesom ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a bod y Cabinet yn cael ei hysbysu bod y Pwyllgor wedi atgyfeirio ymchwiliad i oedi wrth drosglwyddo gofal (IP1.5.2.1 M01 (PAM/025) i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: