Manylion y penderfyniad

Development of Capital Programme 2019/20 – 21/22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To present the Capital Programme for the period 2019/20 to 21/22.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar ddatblygu Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2021/22 a fyddai’n cael ei hariannu gan y Cyngor, gan gynnwys manylion cyfredol grantiau a benthyciadau penodol ar gyfer y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a benthyciadau i North East Wales (NEW) Homes.  Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r dyraniadau gwahanol ar gyfer y tair adran Statudol/Rheoliadol, Asedau a Gedwir a Buddsoddiadau.

 

Ers cyhoeddi’r diffyg cyffredinol o £8.216 miliwn ym mis Chwefror 2018, bu ymdrech gadarnhaol ac arwyddocaol gyda derbyniadau cyfalaf yn cael eu creu a chyllid cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfalaf Cyffredinol ychwanegol.  Roedd hyn yn lleihau cyfanswm y diffyg amcangyfrifedig yng nghyfnod 9 2018/19 i £1.428 miliwn dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020/21.  Er bod cynnydd da wedi’i wneud ar dderbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd hyn yn dod yn fwy heriol dros amser.  Amcangyfrifwyd tua £2.3 miliwn o dderbyniadau cyfalaf yn ystod y cyfnod, yn ddarostyngedig i risgiau o ran cymhlethdodau a grymoedd y farchnad.  Yn unol â pholisi darbodusrwydd y Cyngor ar dderbyniadau cyfalaf, ni wnaed unrhyw newidiadau i’r sefyllfa gyllidebol hyd nes y byddant wedi’u cyflawni’n llawn.

 

O ran y dyraniadau arfaethedig ar gyfer y tair blynedd, rhoddwyd esboniad ar y rhesymeg i’r cynlluniau newydd gefnogi cyflwyniad digidol y cwricwlwm ysgolion a’r cynllun gliniaduron/cyfrifiaduron personol newydd.  Roedd diweddariad ar grantiau penodol yn nodi’r costau a oedd yn gysylltiedig â rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif lle’r oedd cyfraniadau uwch gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar gyfraniadau’r Cyngor.  Yn ystod trosolwg o gynlluniau posibl yn y dyfodol, cyfeiriwyd at y gwaith a wnaed yn ardal Saltney fel rhan o’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol lle’r oedd cyfraddau ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cynyddu o 75% i 81%.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Shotton nifer o ymrwymiadau yn y Rhaglen Gyfalaf, er enghraifft y buddsoddiad cyfalaf sylweddol mewn ysgolion gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer cysylltedd digidol, yn ogystal ag uwchraddio mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig.  Croesawodd y cyfraniadau uwch gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd a’r ymrwymiad parhaus i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol.

 

Croesawyd y dyraniadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru gan y Prif Weithredwr hefyd, er bod y straen ar gyllidebau’r Cyngor yn parhau.  Cyfeiriodd at yr angen i ehangu’r ddarpariaeth yng Nghartref Preswyl Marleyfield ac i fuddsoddi mewn cynlluniau chwarae er mwyn bodloni’r galw.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Johnson y dylid newid enw Theatr Clwyd er mwyn adlewyrchu buddsoddiad y Cyngor ac i hyrwyddo Sir y Fflint.  Er i’r Prif Weithredwr gytuno y byddai’n codi’r mater hwn gyda’r Bwrdd, soniodd am lwyddiant y Theatr, a oedd yn uchel ei pharch ar hyd a lled y wlad, ac yn theatr â delwedd brand cadarnhaol.

 

Wrth drafod pwysigrwydd y Theatr, dywedodd y Cynghorydd Williams y dylai’r enw barhau fel y mae oherwydd roedd yn enw sefydledig a oedd wedi bod yn uchel ei barch ers cyfnod sylweddol o amser.

 

Pan holodd y Cynghorydd Cunningham am y cynlluniau newydd arfaethedig yn y Rhaglen Gyfalaf, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyfrifoldeb y Cyngor i ddarparu’r seilwaith TG ar gyfer cysylltedd digidol mewn ysgolion a’r angen i uwchraddio’r ddarpariaeth gliniaduron yn y Cyngor er mwyn mynd i’r afael â materion diogelwch a gweithredol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Heesom yr adroddiad a dywedodd bod angen cynnal gweithdy er mwyn galluogi i bob Aelod gyfrannu yn y broses.  Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw newidiadau i’r prosiectau Buddsoddi arfaethedig, ac y gellir trefnu gweithdy i Aelodau ystyried atebion benthyca cyllid creadigol yn y tymor hwy er mwyn asesu fforddiadwyedd prosiectau yn y dyfodol.  Cynigiodd y Cynghorydd Heesom yn ffurfiol i’r gweithdy arfaethedig gael ei gynnal a gofynnodd i hyn gael ei flaenoriaethu.

 

Wrth groesawu’r cyfle i drafod hyn, cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at yr ymweliad Gweinidogol, lle cafwyd rhywfaint o gydnabyddiaeth o’r angen am drafodaeth onest am anghenion ariannol Cynghorau mewn galwadau cystadleuol am ddarpariaeth Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Johnson i’r pwyllgor ystyried cynnwys enwau cynigwyr yng nghofnodion cyfarfodydd.  Gofynnodd y Cadeirydd i hyn gael ei gyfeirio at Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 4 (paragraff 1.04.1) ar gyfer adrannau Statudol/Rheoliadol ac Asedau a Gedwir Rhaglen Cronfa Gyfalaf y Cyngor 2019/20 – 2021/22;

 

(b)       Y bydd y Pwyllgor yn cefnogi’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 5 (paragraff 1.05.1) ar gyfer adran Buddsoddiadau Rhaglen Cronfa Gyfalaf y Cyngor 2019/20 - 2021/22;

 

(c)       Y bydd y Pwyllgor yn nodi bod y diffyg ar gyfer cyllido cynlluniau yn 2019/20 a 2020/21 yn Nhabl 6 (paragraff 1.06.1) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn hyblyg.  Bydd opsiynau, sy’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ail-gyflwyno cynlluniau yn cael eu hystyried yn ystod 2019/20, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau rhaglenni cyfalaf yn y dyfodol;

 

(d)       Y bydd y Pwyllgor yn cefnogi’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 7 (paragraff 1.07.4) ar gyfer yr adran benodol o Raglen Cronfa Gyfalaf y Cyngor a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Fenthyca Darbodus;

 

(e)       Nad oes gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hystyried gan y Pwyllgor cyn y bydd adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2021/22 yn cael ei hystyried gan y Cyngor;

 

(f)        Y bydd gweithdy i Aelodau yn cael ei drefnu i drafod atebion benthyca a buddsoddi hirdymor a chreadigol ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 01/05/2019

Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: