Manylion y penderfyniad

Housing Rent Income

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an operational update on rent collection and current arrear levels


Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw adroddiad a oedd yn rhoi mwy o’r wybodaeth weithredol ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran casglu incwm rhent yn dilyn adroddiad diweddar i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2018.  Er gwaethaf yr heriau parhaus sy'n deillio o nifer gynyddol o denantiaid yn symud o dderbyn y Budd-dal Tai i’r system Credyd Cynhwysol, roedd y sefyllfa gasglu ddiweddaraf yn dangos bod casglu rhent yn dechrau sefydlogi o ganlyniad i weithredu mesurau drwy fwy o adnoddau, ymyrraeth gynnar a mabwysiadu dull ‘rhent yn gyntaf', ac roedd cyfanswm y dyledion rhent yn gostwng o £2.22 miliwn i £2.14 miliwn.

 

            I liniaru’r heriau ariannol ar gyfer y Cyngor, roedd gwaith y Timau Ymyrraeth Tai'n parhau ac roedd adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu i sicrhau bod tenantiaid a oedd ar ei hôl hi o ran rhent yn derbyn help a chymorth yn gynnar trwy ddull 'cyflym’.  Rhannwyd copi o sefyllfa ddiweddaraf dyledion rhent y tenantiaid sy'n derbyn Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai i’r Pwyllgor.

 

            Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod menter arall yn cael ei rhoi ar waith i wella'r systemau meddalwedd ategol sy'n llywio gwaith Swyddogion Gorfodi Rhent, er mwyn sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu targedu i’r tenantiaid hynny sydd angen yr help mwyaf i sicrhau bod rhent yn cael ei dalu ar amser.Roedd gwaith ymarferoldeb wedi’i wneud gyda darparwr meddalwedd ac roedd ei ddatrysiad ‘Rent Sense’ yn prysur ddod yn gyffredin ymysg y diwydiant tai i ddadansoddi amrywiadau talu, risg a phennu pa denantiaid i gysylltu â nhw a phryd. Roedd y feddalwedd yn defnyddio algorithmau i ddadansoddi patrymau talu, amlygu risg a darparu gwybodaeth ddamcaniaethol i gefnogi dull mwy penodol wedi'i dargedu o gasglu dyledion rhent.Byddai datblygu’r feddalwedd hon yn moderneiddio'r gwaith yn y Gwasanaeth Rhent ac yn helpu’r Gwasanaeth i ganolbwyntio’n fwy doeth ar y tenantiaid hynny sydd mewn mwy o berygl o fethu â thalu rhent, gan ryddhau adnoddau mewnol a olygai fod modd rhoi ymyraethau tai ar waith yn sydyn cyn i ddyledion fynd yn waeth.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Rheolwr Refeniw am yr adroddiad a’r wybodaeth ddiweddaraf. Dywedodd ei fod yn ddiweddar wedi gofyn am wybodaeth ynghylch dyledion Treth y Cyngor ar hyn o bryd a oedd wedi’u darparu gan y Rheolwr Refeniw ac a oedd yn dangos dyledion o £3.3 miliwn a gofynnodd a fyddai cynnydd i Dreth y Cyngor yn cael effaith ar ddyledion rhent. Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai'r £3.3 miliwn o ddyledion yn parhau i ostwng gan fod gan breswylwyr yn Sir y Fflint nifer o wahanol ddiwrnodau yn ystod y mis y gallent ddewis talu Treth y Cyngor arnynt. Dywedodd mai’r Cyngor hwn oedd yn dal i berfformio orau o ran casglu Treth y Cyngor, gyda chyfradd gasglu o dros 99%, a oedd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 98%.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd at ddau achos o argyfwng roedd wedi ymdrin â nhw yn ei ward dros y penwythnos a dywedodd fod cwmni’r llinell gymorth ar gyfer y gwasanaeth y tu allan i oriau wedi'i leoli yn Llundain. Er bod y gwasanaeth roedd wedi'i dderbyn yn dda iawn, gofynnodd a ellid dod â'r gwasanaeth yn ei ôl yn fewnol i leihau'r costau i'r Cyngor. Eglurodd y Cynghorydd Attridge bod y sefydliad wedi’i benodi i dderbyn galwadau yn dilyn ymarfer caffael. Dywedodd ei fod yn aml yn defnyddio’r gwasanaeth a teimlai ei fod yn welliant ar y gwasanaeth blaenorol a’i fod yn rhoi gwell gwerth am arian.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hutchinson, eglurodd y Rheolwr Refeniw y dewisiadau ar gyfer ymyraethau a oedd ar gael i'r Cyngor a dywedodd y gallai'r gwaith i gynorthwyo preswylwyr bregus sydd ag anghenion cymhleth fod yn ddwys.  Diolchodd y Cynghorydd Hutchinson i’r swyddogion am yr adroddiad tryloyw.

 

            Canmolodd y Cynghorydd Shotton y swyddogion am y cyngor a’r cymorth a roddwyd i drigolion bregus a gofynnodd iddynt ddiolch i’r holl swyddogion a oedd ynghlwm ar ei ran. Soniodd am y consesiynau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn ddiweddar ynghylch Credyd Cynhwysol, a chredai eu bod yn dangos bod problemau â'r system bresennol.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Dolphin bryderon yngl?n â faint o amser roedd yn rhaid i denantiaid aros i symud i daliadau wedi’u rheoli a’r dyledion a fyddai’n hel yn ystod y cyfnod. Cytunodd y Rheolwr Refeniw gyda’r pryderon a dywedodd yr hoffai weld yr amser hwn yn gostwng.  

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Wisinger, eglurodd y Cynghorydd Attridge bod rhent yn cael ei gasglu’n fewnol gan Swyddogion Gorfodi Rhent ac roedd y gwasanaeth wedi gwella’n sylweddol ers pan oedd yn cael ei ddarparu gan gwmni allanol.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer dyledion rhent yn 2018-19, sy’n dangos bod casglu rhent yn dechrau sefydlogi; a

 

 (b)      Cymeradwyo mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i wella trefniadau casglu rhent yn ystod 2019-20, trwy ddatblygu meddalwedd arbenigol i gefnogi dull o gasglu rhent wedi’i dargedu.

Awdur yr adroddiad: David Barnes

Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: