Manylion y penderfyniad
Parenting Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
tbc
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithle, yr adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Fframwaith Strategaeth Rhianta Sir y Fflint a’r gwaith a wneir i ddarparu cefnogaeth rhianta o ansawdd a sy’n gyson ar draws Sir y Fflint gan gymryd i ystyriaeth y cynigion ariannu yn y dyfodol o ran hyblygrwydd cyllid a’r canlyniadau gofynnol. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr y Rheolwr Gwasanaeth, y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd, a gwahoddodd hi i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybodaeth gefndir ac eglurodd fod dwy Strategaeth Rianta wedi eu cyhoeddi yn Sir y Fflint ers 2007 gyda Strategaeth Rhianta Sir y Fflint wedi ei lansio yn 2018 (wedi ei atodi i’r adroddiad).Mae’r Fframwaith Rhianta yn rhoi manylion yngl?n â chynaliadwyedd a datblygiadau pellach rhaglenni rhianta ac mae’n ffurfio rhan o strategaeth ehangach ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal yn Sir y Fflint. Goruchwyliwyd y gwaith gan y Gr?p Strategol aml asiantaeth Rhianta yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y gwaith yn Sir y Fflint ochr yn ochr â Rhianta yng Nghymru, canllawiau ar ymgysylltu a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Roedd llwyddiant y Strategaethau a'r Fframwaith mewn galluogi cefnogaeth rhianta o ansawdd da o ganlyniad i alinio'r polisi gyda gweithredu yn lleol, cyllid pwrpasol, rôl cydlynydd rhianta pwrpasol, trosolwg strategol drwy’r gr?p aml asiantaeth Rhianta yn Sir y Fflint a’r cydweithio rhwng nifer o wasanaethau i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth rhianta o ansawdd.
Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am y prif ystyriaethau, fel nodwyd yn yr adroddiad, yn ymwneud â'r Strategaeth Rhianta, cyd-destun polisi.
Manteisiodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cyfle i ddarllen llythyr o gefnogaeth gan yr Athro Judy Hutchings, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor, i'r gwaith ar Fframwaith a Strategaeth Rhianta Sir y Fflint a gwaith y gr?p strategol aml asiantaeth, y rôl cydlynydd a’r canlyniadau. Hefyd mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, ei llongyfarchiadau a’i gwerthfawrogiad i'r Rheolwr Gwasanaeth am y gwaith caled a'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd.
Ceisiodd y Cynghorydd Gladys Healey gael sicrwydd fod cefnogaeth mewn lle i gynorthwyo teuluoedd aml ddiwylliannol ac y ceisir cymorth gan sefydliadau eraill i helpu gyda’r dasg hon.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y gallai iaith fod yn rhwystr a bod cefnogaeth yn cael ei ddarparu i oresgyn hyn. Rhoddodd yr Ymarferydd Rhianta Arweiniol sicrwydd fod yr angen i ddarparu cefnogaeth aml ddiwylliannol yn ystyriaeth allweddol o fewn y Gwasanaeth a chyfeiriodd at yr adnoddau a’r cymorth a ddarparwyd mewn ieithoedd eraill. Hefyd fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw ar yr angen i ddarparu cefnogaeth aml ddiwylliannol i fynd i’r afael â materion diogelu.
Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes pa gymorth oedd ar gael i neiniau a theidiau oedd â chyfrifoldeb fel prif ofalwyr dros eu hwyrion a'u hwyresau.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth tra nad oedd yna unrhyw raglen benodol ar gyfer neiniau a theidiau roedd pwysigrwydd eu rôl yn cael ei gydnabod ac roeddent yn cael eu croesawu a'u hannog i ymgysylltu gyda'r Gwasanaeth i sefydlu cysylltiadau ar draws y cenedlaethau.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith rhianta hyd yma; a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a’r gwaith a wneir i ddarparu cefnogaeth rhianta o ansawdd a sy’n gyson ar draws Sir y Fflint gan gymryd i ystyriaeth y cynigion ariannu yn y dyfodol o ran hyblygrwydd cyllid a’r canlyniadau gofynnol.
Awdur yr adroddiad: Craig Macleod
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2019
Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: