Manylion y penderfyniad
Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the levels of progress in the
achievement of activities, performance levels and current risk
levels as identified in the Council Plan 2018/19
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi crynodeb o berfformiad Chwarter 3 (mis Hydref tan fis Rhagfyr 2018) ar gyfer blaenoriaeth ‘Cyngor Gwyrdd’ Cynllun y Cyngor a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor yn 2018/19.
Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad monitro Chwarter 3 yn adroddiad cadarnhaol a’i fod yn dangos bod 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 85% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a ddymunid. Roedd 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Roedd y risgiau’n cael eu rheoli gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (61%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (22%). Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y risg fawr a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor sef ‘na fydd cyllid yn cael ei sicrhau ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd sy'n flaenoriaeth’. Dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol newydd, o 7 Ionawr 2019 ymlaen, fel Corff Cymeradwy Draenio Cynaliadwy. Eglurodd fod hyn wedi rhoi pwysau sylweddol o ran adnoddau ar y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd i weithredu a darparu adnoddau a chyllid ar gyfer y rôl statudol newydd hon. Dywedodd y byddai effeithiau datblygu’r gwasanaeth newydd hwn, yn y tymor byr, yn lleihau gallu'r Tîm i gyflawni cynlluniau lliniaru llifogydd anstatudol.
Gan gyfeirio at reoliadau Cyrff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy a gyflwynwyd ar 7 Ionawr, dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell bod Sir y Fflint wedi gofyn i LlC oedi cyn eu gweithredu gan fod angen paratoi, ond ni fu oediad a derbyniwyd swm o £20,000 i ymdrin â’r broses weithredu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at dudalen 68 yr adroddiad a'r sylw bod dyraniadau gwastraff a llifogydd ar gyfer 2018/19 i gael eu tynnu o’r Grant Refeniw Sengl a gofynnodd am ddiweddariad. Ychwanegodd fod angen neilltuo mwy o safleoedd ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy ar draws Sir y Fflint. Cyfeiriodd at y cynllun ynni d?r yng Ngwepra a gofynnodd a oedd potensial am unrhyw gynlluniau eraill yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Prif Swyddog bod grant natur a fyddai’n galluogi SEG wedi’i gyflwyno ac roedd disgwyl ymateb erbyn diwedd Mawrth. Yngl?n ag ynni adnewyddadwy, dywedodd fod y Cyngor wastad yn ystyried opsiynau a’i fod yn chwilio am safleoedd posib’ ar gyfer ffermydd solar yn y Sir.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 25/04/2019
Dyddiad y penderfyniad: 26/02/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: