Manylion y penderfyniad
Certification of grants and returns 2017/18
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To inform Members of the grant claim
certification by Wales Audit Office for the year ended 31st March
2018.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar ardystiad hawl grant ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018.
Er nad oedd y canfyddiadau yn cyflwyno risg fawr i berfformiad, nid oeddent yn adlewyrchu’r safonau a ddisgwyliwyd ac roedd swyddogion yn parhau i weithio’n agos â Swyddfa Archwilio Cymru i wella ansawdd hawliau. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y cynllun gweithredu manwl a byddai’r adroddiad yn cael ei rannu â’r Gr?p Llywodraethu Cyfrifon a Phrif Swyddogion i sicrhau perchnogaeth a chamau gweithredu. Wrth ddarparu cyd-destun, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod yr addasiad net o £11,151 i hawliadau yn gyfran fechan o gyfanswm cyffredinol y grantiau sef £129m heb unrhyw golled ariannol i’r Cyngor.
Wrth grynhoi’r pwyntiau allweddol, soniodd Mr Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, am y dirywiad bychan o ran perfformiad lle’r oedd hanner yr hawliadau a archwiliwyd yn gymwys a chydnabu fod lle i wella. Roedd y lleihad o ran nifer yr hawliadau grant ar gyfer y cyfnod o ganlyniad i gyflwyniad y Crynodeb Sengl o Grantiau Llywodraeth Cymru a gwnaethpwyd llawer iawn o gamgymeriadau arno (yn ychwanegol at broblemau Llywodraeth Cymru â’r canllawiau a’r templed). Dywedodd Mr Whiteley fod hyn yn siomedig gan fod prosesau a pherfformiad y Cyngor yn gadarn yn gyffredinol, ac awgrymodd fod y trefniant newydd efallai wedi achosi dryswch. Dosbarthodd grynodeb diwygiedig o ganlyniadau’r gwaith ardystio oherwydd problemau fformatio ar yr adroddiad cyhoeddiedig. Roedd yr argymhellion wedi’u derbyn gan y rheolwyr ac roedd timau’n gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i roi’r camau gweithredu ar waith.
Wrth ddiolch i gydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru am yr adroddiad, dywedodd y Prif Weithredwr er nad oedd y materion unigol yn bwysig, ar y cyd roeddent yn peri pryder. Roedd gwaith wedi dechrau ar y camau gweithredu cytunedig a byddai’n cael ei fonitro.
Cadarnhaodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol fod adolygiad o Grantiau Corfforaethol wedi’i gynnwys yn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2019/20.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys adroddiad Ardystiad Hawl Grant ar gyfer 2017/18.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 01/07/2019
Dyddiad y penderfyniad: 27/03/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/03/2019 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: