Manylion y penderfyniad

Wales Audit Office (WAO) Audit Plan 2019

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

The Wales Audit Office, being the Council’s external auditor, has prepared an audit plan for 2019 for the Council and the Clwyd Pension Fund which sets out their proposed audit work for the year along with timescales, costs and the audit teams responsible for carrying out the work.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Mr Mike Whiteley Gynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2019 a oedd yn nodi’r trefniadau a’r cyfrifoldebau ar gyfer y gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y Cyngor.

 

Wrth grynhoi'r prif bwyntiau, tynnodd sylw at y risgiau archwiliad ariannol allweddol ar reolwyr yn diystyru rheolyddion fel risg gyffredinol, amcangyfrifiadau sylweddol a oedd yn gymhleth o ran eu natur ac yn amodol ar ddyfarniadau a chyflwyniad safonau cyfrifeg newydd lle'r oedd deialog agored gyda swyddogion y Cyngor yngl?n â’r paratoadau. Nid oedd newid arfaethedig i’r ffioedd archwilio a oedd yn cynnwys gwaith ar y Cydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cynllun Archwilio yn nodi’r rheolyddion a oedd ar waith i liniaru’r bygythiad annibynnol posibl a nodwyd ym mharagraff 30. Gwerthfawrogwyd y Swyddogion Cyllid am gynorthwyo cydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru â chyflawni’r gwaith yn unol â’r amserlen arfaethedig.

 

Yn ystod trosolwg o’r rhaglen archwilio perfformiad, tynnodd Mr Gwilym Bury sylw at feysydd cyffredin megis cynaliadwyedd ariannol ar draws cynghorau Cymru a gwaith penodol ar leihau ôl-ddyledion rhent yn dilyn newidiadau diwygio'r gyfundrefn les a oedd yn broblem benodol ar gyfer Sir y Fflint. Rhoddwyd diweddariad hefyd ar statws y gwaith archwilio perfformiad parhaus o amlinelliad archwiliad y flwyddyn flaenorol.

 

Wrth drafod y rhaglen archwilio perfformiad, siaradodd y Prif Weithredwr am symud y ffocws ar faterion lleol a'r cynnig arfaethedig i gael gwared ar rwymedigaethau’r cyngor dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Croesawyd y gwaith archwilio ar ôl-ddyledion rhent i dynnu sylw at ffactorau sy’n cyfrannu a byddai’r prosiect ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T? yn darparu adborth annibynnol ar ansawdd mynediad. Roedd protocol mewnol y Cyngor (fel nodwyd mewn eitem ddiweddarach yn y rhaglen) yn darparu mecanwaith ar gyfer rhoi gwybod am ganlyniadau adroddiadau rheoleiddio.

 

Wrth drafod y rhaglen archwilio ariannol, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai gofynion y terfyn amser statudol cynharach yn cael eu cwrdd yn dilyn y paratoadau a roddwyd ar waith y llynedd.  O ran y risgiau a nodwyd yn flaenorol, cyflwynodd y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau pontio o fewn y tîm cyn dychweliad y Rheolwr Cyllid. Cydnabuwyd cyfraniadau’r Rheolwr Cyllid Dros Dro yn ystod y cyfnod hwn gan y Prif Weithredwr ac Aelodau’r Pwyllgor a groesawodd ei benodiad i weithio ar gyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Soniodd y Cynghorydd Dunbobbin am y dyletswyddau a osodwyd ar y Cyngor gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ystod adeg o galedi ariannol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r gwaith cenedlaethol ar gynaliadwyedd ariannol yn tynnu sylw at y cyfrifoldebau ar Lywodraeth Cymru a oedd ei hun yn ddarostyngedig i rwymedigaethau’r un ddeddfwriaeth.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Dolphin a oedd y ffi archwilio yn cynrychioli gwerth am arian gan na allai barn Swyddfa Archwilio Cymru roi sicrwydd llwyr. Esboniodd Mr Whiteley fod y dull i asesu risg ar waith sampl yn arfer safonol ar gyfer archwilwyr allanol ac nad oedd modd rhoi sicrwydd llwyr heb asesu pob trafodyn unigol.

 

Nododd y Prif Swyddog fod y ffi archwilio yn ffafriol o’i chymharu â chynghorau eraill yng Ngogledd  Cymru, gellid priodoli hyn i ansawdd y gwaith a gynhaliwyd gan y timau Cyllid ac Archwilio Mewnol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y ffioedd archwilio yn darparu gwerth am arian ac wedi bod yn sefydlog am beth amser a bod partneriaeth waith gadarnhaol rhwng y Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Gofynnodd Sally Ellis am y dull i wneud y mwyaf o ganlyniadau o waith gan yr Adain Archwilio Mewnol a Swyddfa Archwilio Cymru ar ddyledion rhent a’r Strategaeth Ddigidol. Dywedodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol y byddai cwmpas yr adolygiadau yn cael ei gytuno ymlaen llaw er mwyn osgoi dyblygu gwaith a darparu gwerth ar gyfer y gwasanaethau hynny. Wrth groesawu’r gwaith, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r prosiect digidol yn canolbwyntio ar yr elfennau cyflawnadwy oherwydd y cymhlethdodau a oedd yn gysylltiedig.

 

Cytunodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol i nodi canlyniadau adroddiadau rheoleiddio yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pan yn derfynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

Awdur yr adroddiad: Liz Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 01/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 27/03/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/03/2019 - Pwyllgor Archwilio

Accompanying Documents: