Manylion y penderfyniad

Sheltered Accommodation Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To consider the outcome of the Sheltered Housing Review

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar yr adolygiad arfaethedig o lety gwarchod o fewn cyd-destun galw cynyddol am dai cymdeithasol ar draws Sir y Fflint; cynnydd yn nifer y bobl gydag anableddau corfforol; a’r egwyddor strategol yn y Strategaeth Dai ddrafft o wneud y mwyaf o'r stoc bresennol.

 

Crynhodd y Prif Swyddog y data amrywiol sy’n sail i’r adroddiad, yn cynnwys y rhesymau dros dai gwag, sefydlu cysylltiadau cludiant effeithiol ac archwilio technoleg newydd i gefnogi preswylwyr i fyw yn eu llety cyhyd ag sy’n ymarferol.  Gofynnwyd am safbwyntiau ar y cynnig i alinio meini prawf oedran y Cyngor gyda meini prawf partneriaid Cymdeithas Tai Un Llwybr Mynediad at Dai, h.y. dros 55 oed.

 

Er ei fod yn deall y rhesymau dros newid yr ystod oedran, mynegodd y Cynghorydd Palmer bryderon na ddylai hyn fod ar draul y rhai 50-55 oed. Awgrymodd y Prif Swyddog mai dull teg fyddai adolygu’r ymgeiswyr yn yr ystod oedran honno sydd ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai ar hyn o bryd, er mwyn osgoi eu rhoi dan anfantais, cyn cytuno ar dorbwynt.

 

Wrth nodi bod hyn yn benderfyniad anodd, siaradodd y Cynghorydd Shotton mewn cefnogaeth o’r newid arfaethedig.  Dywedodd y Cynghorydd Attridge bod y broses Un Llwybr Mynediad at Dai wedi gwella llawer ers ei gyflwyno, a rhoddodd sicrwydd y bydd darpariaeth ar gyfer bobl h?n sydd fwyaf mewn angen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at y blociau o randai a ddatblygwyd gan Dai Wales & West a all fod yn addas ar gyfer unigolion dros 50 sy'n byw ar eu pennau eu hunain.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Hardcastle, darparodd yr Uwch Swyddog Tai Gwarchod eglurhad ar ailgylchu offer symudedd lle nad oedd eiddo oedd wedi cael ei addasu yn gallu cael ei gydweddu gydag ymgeiswyr ar y gofrestr tai arbenigol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi addasu cymhwysedd holl grwpiau bychain a chynlluniau gwarchod i 55 oed gyda’r bwriad o ddod â hwy’n unol â Chymdeithasau Tai a phartneriaid Un Llwybr Mynediad at Dai yr Awdurdod Lleol, yn amodol ar adolygu ceisiadau cyfredol pobl rhwng 50 a 55 oed; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi cwmpas adolygiad swyddog fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Dogfennau Atodol: