Manylion y penderfyniad
Theatr Clwyd Business Plan 2019-2021
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To receive and approve the business plan for
Theatr Clwyd.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Busnes Theatr Clwyd ar gyfer 2019-2021, a oedd angen cymeradwyaeth y Cabinet. Soniodd am y gwaith rhagorol a wnaethpwyd yn y Theatr, a’r trawsnewid helaeth a gyflawnwyd. Estynnodd wahoddiad i Mr Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, i gyflwyno’r Cynllun Busnes yn y cyfarfod.
Diolchodd Mr Evans-Ford i’r Cabinet am y cyfle i gyflwyno’r Cynllun Busnes a dywedodd mai cenhadaeth y Theatr oedd ‘Gwneud y byd yn llonnach, un foment ar y tro’. Rhannodd wybodaeth am y materion canlynol:
· Dal i ddatblygu’r arlwy i deuluoedd dros y Nadolig gyda chynhyrchiad Nadolig Cymraeg cyntaf y Theatr;
· Ennill Gwobr Theatr y Deyrnas Gyfunol am y Cynhyrchiad Cerddorol Gorau, ‘The Assassination of Katie Hopkins’;
· Tair o drama Gymraeg newydd wedi’u creu drwy’r cynllun Roundabout a’u perfformio ar leoliad yng ngogledd Cymru, cyn eu llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd;
· Rhaglen TYFU’s theatr a oedd wedi cal i ddatblygu swyddi i brentisiaid newydd yn y gweithdy, a’r timau ymgysylltu creadigol, arlwyo a goleuadau a sain;
· Y bartneriaeth waith gref gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a
· Chyflogi 85 o staff craidd cyfwerth â llawn amser a mwy na 115 o staff achlysurol dros y deuddeg mis diwethaf. Cafodd 45 o wirfoddolwyr newydd eu recriwtio hefyd, gan ddod â’r cyfanswm i 150.
·
Diolchodd y Cynghorydd Shotton i Liam Evans-Ford am ei gyflwyniad, gan sôn mor amlwg oedd y gwelliannau yn y Theatr, a’u bod yn creu argraff dda.
Talodd y Cynghorydd Jones deyrnged i’r gwaith a wnaethpwyd yn y Theatr gyda phobl â dementia, a oedd yn amhrisiadwy iddynt hwy a’u gofalwyr.
Ac yntau’n aelod o Fwrdd Theatr Clwyd, roedd y Cynghorydd Bithell hefyd yn croesawu’r adroddiad, a gafodd ei gyflwyno a’i dderbyn yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd. Dywedodd fod y Theatr yn estyn allan i gymunedau ledled y Sir, yn cynnig amrywiaeth o wahanol raglenni i wahanol grwpiau oedran, ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at yr economi leol.
Diolchodd y Cynghorydd Mullin i Liam Evans-Ford a’i dîm, ar ran ei hun a’r Cynghorydd Butler, am yr holl waith a wnaethpwyd ers dechrau’r cynllun trawsnewid.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cynllun Busnes Theatr Clwyd ar gyfer 2019-21.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 31/01/2019
Dogfennau Atodol: