Manylion y penderfyniad
Council Plan 2018/19 – Mid Year Monitoring
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To agree the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2018/19.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19, a oedd yn adroddiad a oedd yn seiliedig ar eithriadau a ganolbwyntiai ar danberfformio. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau a wnaed yn y cyfarfod diwethaf am ddarlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrywiaeth o wybodaeth perfformio sydd ar gael y gall Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ei defnyddio er mwyn adrodd am berfformiad.
Roedd Sir y Fflint yn Gyngor sy'n perfformio'n dda fel y nodwyd yn adroddiadau monitro Cynllun y Cyngor yn y gorffennol a’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol diweddar. Roedd adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 yn dangos bod 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau bwriadedig. Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed. Roedd risgiau’n cael eu rheoli gyda chyfran fechan o 18% wedi’u hasesu fel rhai mawr.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo a nodi'r canlynol:
· Lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor;
· Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;
· Y lefelau risg presennol o fewn Cynllun y Cyngor;
(b) Bod y Cabinet wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19; a
(c) Bod adroddiad pellach yn cael ei dderbyn fis Ionawr gyda darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrywiaeth o wybodaeth ar berfformio sydd ar gael lle gall Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ei defnyddio er mwyn adrodd am berfformiad.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 20/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/01/2019
Dogfennau Atodol: