Manylion y penderfyniad
Regional Homeless Strategy and Local Action Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval for the North Wales Regional Homeless Strategy and the Flintshire Local Action Plan 2019-22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge Strategaeth Ranbarthol Digartrefedd ac adroddiad y Cynllun Gweithredu Lleol a oedd yn rhoi manylion yngl?n â’r strategaeth ranbarthol y cytunwyd arni gan Gynghorau Gogledd Cymru ynghyd â chynllun gweithredu lefel uchel a oedd yn seiliedig ar adolygiadau annibynnol ym mhob sir. Byddai’r dull rhanbarthol yn galluogi rhannu arferion gorau trwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r problemau, a hybu gwaith partneriaeth lle bo modd.
Amcanion y strategaeth ddigartrefedd oedd atal digartrefedd a sicrhau bod llety addas a chefnogaeth foddhaol ar gael i bobl ddigartref. Roedd themâu cyffredin wedi’u pennu ar gyfer y rhanbarth – Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau. O fewn y themâu hynny, mae'r adolygiad a'r cynllun gweithredu lleol yn Sir y Fflint wedi nodi camau blaenoriaeth er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd a’i atal yn y sir. Roedd y meysydd allweddol a nodwyd yn cynnwys pobl ifanc ddigartref; rhai sy'n gadael y carchar; datblygu dulliau tai yn gyntaf; gwella mynediad at lety; lliniaru trefniadau diwygio’r gyfundrefn les; a gwell partneriaethau gyda'r maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar bosibiliadau i eiddo gwag ddechrau cael ei ddefnyddio eto, yn enwedig llety uwch ben siopau. Croesawai unrhyw waith gyda landlordiaid yn y dyfodol er mwyn i eiddo o'r fath gael ei ddefnyddio eto. Eglurodd y Cynghorydd Attridge bod y Cyngor yn gweithio gyda landlordiaid a bod cynrychiolaeth yng nghyfarfodydd Fforwm y Landlordiaid. Roedd cynlluniau gweithredu i ganol y dref ar waith i ymdrin â'r broblem hon ac roedd y gwaith hwnnw'n parhau. Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am y gwaith cadarnhaol a oedd eisoes wedi’i wneud gan swyddogion a landlordiaid mewn maes heriol.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu Strategaeth Ranbarthol Digartrefedd Gogledd Cymru a’r cynllun gweithredu lefel uchel; a
(b) Cefnogi’r camau blaenoriaeth a nodir yng Nghynllun Gweithredu Lleol Digartrefedd Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Katie Clubb
Dyddiad cyhoeddi: 20/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/01/2019
Dogfennau Atodol: