Manylion y penderfyniad

Communities for Work

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update Members on the delivery of the Welsh Government employability programmes in Flintshire.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i ddarparu gwybodaeth ar y gwasanaeth Menter ac Adfywio ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yngl?n â chyflawni rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn Sir y Fflint.

 

Mewn ymateb i gais cynharach, cylchredwyd nodyn briffio gan y Rheolwr Gwasanaeth – Menter ac Adfywio, a rhoddodd drosolwg o’r swyddogaethau a'r gweithgareddau cyfredol o fewn pob maes gwasanaeth yn dilyn ailstrwythuro diweddar. Dangosodd diagram o’r strwythur newydd fod y mwyafrif o’r timau yn cael eu hariannu'n allanol. Nodwyd nifer o ddeilliannau cadarnhaol fel y gefnogaeth a roddwyd gan y tîm Menter Gymdeithasol i fusnes cymdeithasol yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint yn ddiweddar yn ogystal â llwyddiant y tîm Economi Rhanbarthol yn sicrhau £9m o gyllid ar gyfer cysylltedd digidol. Byddai adroddiad ar waith gan y swyddogaeth Datblygu Rhaglen ar ddull i ddarparu gwerth cymdeithasol drwy weithgaredd caffael yn cael ei gynnwys yn y rhaglen ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym Mawrth.

 

Wrth groesawu’r wybodaeth cododd y Cynghorydd Dolphin bryderon am yr amser y mae’n ei gymryd i lenwi'r swydd wag i gefnogi adfywio canol y dref. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod adnoddau wedi lleihau dros amser yn ogystal â chefnogaeth cyllid allanol. Roedd anghenion canol trefi yn newid mewn ymateb i heriau economaidd yn genedlaethol, a byddai angen i swyddogion ystyried dull newydd o weithio mewn ffordd strategol i dargedu adnoddau’n effeithiol.  Byddai adroddiad llawn ar ganol trefi yn cael ei dderbyn ym Mawrth/Ebrill.

 

Rhannwyd y pryderon hyn gan y Cynghorydd Hutchinson a ddywedodd fod yr effaith yn amlwg yng nghanol yr holl drefi, a siopau llai oedd yn wynebu'r risg mwyaf.

 

Tra’n rhoi sicrwydd y byddai adnoddau cyfyngedig y Cyngor yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) mai'r prif her i'r strydoedd mawr oedd y newid sylweddol yn y farchnad fanwerthu ar draws y DU ac mai ychydig o ddylanwad oedd gan yr Awdurdod Lleol dros hynny.

 

Rhannwyd y farn hon gan y Cynghorydd Butler a dynnodd sylw at y ffaith fod y cynnig ymhob canol tref yn wahanol. Dywedodd fod gan bawb ddyletswydd i gefnogi eu siopau lleol a bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei bwerau i gynyddu nifer yr ymwelwyr fel annog landlordiaid i sicrhau fod llety gwag ar gael uwchben siopau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Palmer cyn penodi Rheolwr Canol Tref / Swyddog Adfywio y dylid cytuno ar y cylch gorchwyl cywir i sicrhau nad ydynt yn cael eu pardduo am beidio â gwneud y gwaith o fewn yr hinsawdd bresennol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at effaith siopa ar y we a gofynnodd am ryddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cyllid hwn yn cael ei roi yn awtomatig i fusnesau cymwys. Ar dwristiaeth dywedodd fod rhaglen waith ar y gweill i wella isadeiledd ymwelwyr yn yr ardaloedd arfordirol.

 

Roedd aelodau eraill yn cydnabod fod adfywio canol tref yn fater eang a oedd hefyd wedi cyflwyno problemau i Reolwyr Canol Tref.

 

Roedd Sharon Jones, Rheolwr Cyflawni Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy yn bresennol i roi cyflwyniad ar y rhaglenni cyflogadwyedd yn Sir y Fflint i gefnogi cyfranogwyr i gyflogaeth a hunan gyflogaeth. Dangoswyd fideo byr i'r Pwyllgor a oedd yn darlunio'r gefnogaeth a roddwyd i brentisiaid oedd yn cymryd rhan ym mhrosiect 'Adeiladu Dyfodol' Wates Construction.

 

Roedd y rhaglen Cymunedau am Waith yn gyfyngedig i ardaloedd cod post cymwys ac yn cynnig cefnogaeth fentora ddwys i bobl oedd wedi bod yn ddi-waith am amser hir i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith neu addysg bellach. I’r rhai nad oeddent yn gymwys, roedd Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig amrediad o gefnogaeth gofleidiol i unrhyw un yn Sir y Fflint oedd angen cymorth i ddychwelyd i gyflogaeth.    Roedd y Gronfa Waddol, a ddaw o dan y Gwasanaeth Menter ac Adfywio, yn canolbwyntio ar gefnogi'r Rhwydwaith Busnes Entrepreneuraidd a’r sector menter gymdeithasol.

 

Yn ystod y cyflwyniad, rhoddwyd eglurhad ar yr amrediad o brosiectau llwybr oedd yn anelu at roi’r sgiliau a’r profiad perthnasol i unigolion i fynd i mewn i’r farchnad lafur. Roedd y cyflwyniad hefyd yn amlygu straeon o lwyddiant ac roedd cyfranogwyr blaenorol y rhaglen nawr yn gweithredu fel mentoriaid. Roedd perfformiad yn 2018/19 ar y llwybr cywir ac roedd rhai ardaloedd eisoes yn mynd y tu hwnt i dargedau.

 

Aeth y Cynghorydd Butler ati i atgoffa fod pob un o’r tair rhaglen yn ddibynnol ar arian grant gan Lywodraeth Cymru a chanmolodd ymroddiad a brwdfrydedd y tîm yn sicrhau canlyniadau rhagorol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyflawni fod y rhaglen Cymunedau am Waith yn cael ei hariannu tan 2020 a bod cadarnhad llafar wedi ei dderbyn ar barhad cyllid ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy tan 2020. Ond roedd yn annhebygol y byddai'r cyllid grant ar gyfer y Gronfa Waddol yn parhau y tu hwnt i 2020.

 

Mewn ymateb i ymholiad rhannwyd gwybodaeth ar brosiectau'r rhaglen o lwybrau i gefnogi'r sector gofal drwy weithio gyda darparwyr penodol a'r Bwrdd Iechyd.  Eglurwyd fod y prosiectau wedi eu targedu at feysydd o angen neu ar gais busnes.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin am i rannau o’r cyflwyniad nad yw’n cael ei gynnwys yn yr adroddiad gael ei e-bostio i Aelodau (e.e. prosiectau llwybr wedi eu teilwra i gysylltu gyda swyddi gwag sydd ar ddod).

 

Yn ystod y drafodaeth canmolodd Aelodau y Rheolwyr a'u timau am eu llwyddiant ar y tair rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed mewn cyflawni'r rhaglenni cyflogaeth.

Awdur yr adroddiad: Niall Waller

Dyddiad cyhoeddi: 07/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: