Manylion y penderfyniad

Bright Spots

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To consider the survey findings of looked after
children

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau adroddiad i ystyried canfyddiadau a safbwyntiau plant dan ofal yn yr arolwg 'Your Life: Your Care’. Dywedodd bod yr holl blant dan ofal yn Sir y Fflint wedi eu holi i gymryd rhan mewn arolwg am eu lles yn ystod Chwefror – Mawrth 2018. Datblygwyd yr arolwg ‘Your Life: Your Care’ gan Coram Voice a Phrifysgol Bryste fel rhan o’r rhaglen Bright Spots. Roedd yr arolwg yn holi plant mewn gofal am eu bywydau, yn seiliedig ar y pethau oedd yn bwysig iddynt. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau y byddai'r awdurdod lleol yn defnyddio'r canfyddiadau allweddol i hysbysu datblygiad gwasanaethau a threfniadau cefnogi i blant mewn gofal. 

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau wybodaeth gefndirol ac eglurodd mai prif amcanion yr arolwg oedd nodi lle roedd yn ymddangos bod plant yn ffynnu, lle gellid gwella pethau, darparu dadansoddiad o brofiadau a lles plant yn seiliedig ar dystiolaeth, a hysbysu gwelliannau gwasanaeth. Cyhoeddodd yr arolwg dair dogfen yn atodol i’r adroddiad.  Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau ar y canfyddiadau allweddol a meysydd datblygu yn deillio o’r arolwg, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd y byddai gwaith yn cael ei wneud drwy'r ymgynghoriad a'r fforwm ymgysylltu ar gyfer plant dan ofal a’u gofalwyr maeth i ddatblygu cynllun gweithredu wedi ei hysbysu i ddysgu, ac i ymestyn arferion da lle bo’n briodol, yn ogystal â gwella cefnogaeth mewn meysydd sydd i'w datblygu. 

 

                        Soniodd y Cynghorydd Hilary McGuill ar yr ystadegyn oedd yn nodi nad yw 82% o blant (rhwng 8 ac 11 oed) yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses gwneud penderfyniadau am eu bywydau, a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud er mwyn mynd i'r afael â hyn.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau bod y wybodaeth yma wedi ei adrodd yn ôl i weithwyr cymdeithasol ac y byddai'n adborth i’r gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi canfyddiadau a safbwyntiau plant dan ofal o adroddiad llawn ‘You Life, Your Care’ Sir y Fflint; a

 

 (b)      Cymeradwyo datblygiad cynllun gweithredu ar y cyd â phlant dan ofal, sy’n nodi ymateb yr awdurdod lleol i’r argymhellion allweddol a nodir yn adroddiad llawn Bright Spots.

Awdur yr adroddiad: Peter Robson

Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau Atodol: