Manylion y penderfyniad
Housing Rent Income
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide scrutiny with an operational update on rent collection, current arrear levels and the strategies now being adopted to mitigate financial risks to the HRA as welfare reforms and Universal Credit are rolled out by the UK Government.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad diweddaru ar gasgliad incwm rhent a’r effaith ariannol ar ôl-ddyledion rhent o fewn y Cyfrif Refeniw Tai o ganlyniad i ddiwygiadau lles dan arweiniad Llywodraeth y DU, yn enwedig cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol o fis Ebrill 2017.
Rhoddodd y Rheolwr Refeniw gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:
· Golwg ar gyd-destun ehangach y diwygiad lles
· Archwilio’r data yn bellach
· Edrych ar faterion llif arian
· Nodi’r sefyllfa bresennol
· Llunio’r ffordd ymlaen – rheoli’r risgiau
Yn ystod y cyflwyniad, cyfeiriwyd at nifer o benawdau allweddol cenedlaethol a oedd yn tynnu sylw at effaith Credyd Cynhwysol ar ôl-ddyledion rhent. Roedd cymhariaeth o ffigyrau diwedd blwyddyn yn dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dechrau lleihau yn 2016/17 cyn cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ac wrth i’r arenillion rhent gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, roedd ôl-ddyledion rhent hefyd yn dueddol o gynyddu. Er bod y sefyllfa hon yn cael ei rheoli, roedd casglu rhent yn parhau i fod yn her sylweddol. Er mwyn dangos effaith Credyd Cynhwysol ar sefyllfa’r llif arian, rhoddwyd enghraifft o sut y gallai ôl-ddyledion rhent waethygu erbyn wythnos 8 ac ar y pwynt hwnnw gallai’r Cyngor wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau am daliadau a reolir. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynnwys proses gymhleth ac roedd oedi’n debygol.
Roedd ystod o fesurau wedi’u mabwysiadu i gefnogi tenantiaid, yn benodol tenantiaid diamddiffyn, i reoli’r diwygiadau a mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent. Roedd dull mwy cadarn ar waith i ymgysylltu â thenantiaid yn gynt er mwyn ceisio deall pam nad oeddent yn talu a’u hannog i reoli eu harian er mwyn atal ôl-ddyledion rhag gwaethygu. Roedd adnoddau ychwanegol ar y Tîm Ymyrraeth Tai wedi helpu 362 o denantiaid i sicrhau bod eu hôl-ddyledion yn gyfredol. Byddai buddsoddi mewn meddalwedd dadansoddi data newydd, a ddefnyddir yn llwyddiannus ar hyn o bryd gan ddarparwyr tai eraill, o gymorth i ragweld achosion risg yn well.
Sicrhaodd y Cynghorydd Attridge bawb o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r cymorth hwn i denantiaid sydd wir angen help, ond nid oedd y Cyngor am gynnig ‘llwybr cyflym’ i’r broses adennill i’r unigolion hynny a oedd mewn dyled ond yn gwrthod ymgysylltu. Atgoffodd bawb fod lefelau casgliadau rhent o fudd i’r Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn ei dro o gymorth i adeiladu tai newydd.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Rheolwr Refeniw eglurhad o ran y tîm swyddogion a oedd yn ymdrin ag ôl-ddyledion rhent ac adennill rhai ôl-ddyledion drwy daliadau a reolir dros amser. Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ddilynol ar nifer y tenantiaid newydd (yn ystod y 12-18 mis cyntaf o’u tenantiaethau) a oedd mewn dyled.
Atgoffodd y Prif Swyddog bawb o’r gwiriadau a wnaed gan y Tîm Tai wrth ddyrannu eiddo a oedd o gymorth i ganfod tenantiaethau cynaliadwy.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Cymorth i Gwsmeriaid) fod gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar landlordiaid preifat. Roedd yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd gan ei thîm i ymgysylltu â thenantiaid yn ystod y camau cynnar o gymorth i unigolion reoli eu tenantiaethau.
Yn dilyn y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Hardcastle, dywedodd y Rheolwr Refeniw fod y Cyngor wedi gwneud cais am daliadau a reolir ar gyfer oddeutu 71 o achosion a bod y ffigwr hwn yn codi. Cytunodd y Cynghorydd Attridge y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r awgrym o sefydlu Gr?p Gorchwyl i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent.
Yn ystod y drafodaeth, siaradodd y swyddogion am ddyletswydd y Cyngor i atal digartrefedd a rhannu arferion da rhwng awdurdodau cyfagos.
Dosbarthwyd gwybodaeth am lefelau band ôl-ddyledion presennol gyda’r gwerthoedd priodol. Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Wisinger ar ymdrin â thenantiaid sydd wedi gwrthod cymorth, pwysleisiodd y Cynghorydd Attridge y dull o oddef dim. Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod gan fod achos gefndir ac fe allai gynnwys aelwyd â phroblemau cymhleth.
Gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies a fyddai modd i sleidiau’r cyflwyniad gael eu rhannu â’r holl Aelodau.
Awgrymodd y Cynghorydd Banks y dylid ceisio taliadau misol yn hytrach nac wythnosol gan yr unigolion hynny sy’n derbyn Credyd Cynhwysol er mwyn atal ôl-ddyledion rhag gwaethygu. Nododd y Swyddogion ei awgrym i newid enw’r tîm i’r Tîm Ymyrraeth Tai.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran ôl-ddyledion rhent yn 2018-19 yng nghyd-destun rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU;
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r ymyriadau a’r mesurau newydd a gymerir i wneud y mwyaf o incwm rhent ond sydd hefyd yn cefnogi tenantiaid i gynnal tenantiaethau cynaliadwy; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r camau cadarn sydd yn angenrheidiol i adennill ôl-ddyledion gan denantiaid sydd, er gwaethaf yr holl ymyriadau, yn gwneud prin ddim ymdrech i dalu.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 07/11/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Dogfennau Atodol: