Manylion y penderfyniad
Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To inform the Committee of progress against
actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r adroddiad cynnydd ar gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r ddau gam ar eitem Cynllun y Cyngor o gyfarfod mis Medi yn cael eu datrys yn y cyfarfod nesaf fis Ionawr. Yr amrywiaeth llawn o fesuryddion perfformiad ar gyfer Trosolwg a Chraffu a'r darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad oedd y rhain.
Cytunodd y Cynghorydd Jones y gellid dileu'r cam gweithredu oedd heb ei gyflawni ar adroddiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor, gan fod gwaith yn cychwyn ar Gynllun y Cyngor 2019/20.
Ar gamau gweithredu heb eu cyflawni o fis Gorffennaf a Medi, gofynnodd y Prif Weithredwr i Aelodau aros am fanylion Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r pwysau o ran cost ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir cyn penderfynu a ddylid cysylltu â Llywodraeth Cymru eto am gyllid pellach. Roedd cynllun gweithredu manwl ar ymatebion swyddogion i Aelodau – ar eu gwaith achos a chwynion – wedi ei rannu gydag Arweinyddion Gr?p yn dilyn Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor, cyn cyflwyno adroddiad llawn i’r Pwyllgor fis Ionawr.
Gofynnodd y Cynghorydd Heesom pe gellid rhannu adroddiadau pellach ar Bont Sir y Fflint. Amlygodd bwysigrwydd integreiddio cludiant strategol er mwyn cefnogi’r Cais Twf rhanbarthol a’r angen i hyn gael ei adlewyrchu yn adran Cyngor Uchelgeisiol Cynllun y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr nad y Cyngor sy’n gyfrifol am bolisi Llywodraeth Cymru ar lwybrau cludiant a bod penderfyniadau cyllido gan Lywodraeth Cymru y tu allan i’r Cais Twf. Byddai’n sefydlu amseru yr adroddiad cylchol nesaf ar y bont a’i rannu maes o law.
Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at yr adroddiad ar Metro Gogledd Ddwyrain Cymru oedd yn gysylltiedig â datrysiad trafnidiaeth integredig y Cyngor ac roedd wedi ei ohirio o gyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcheddol. Byddai ystyried yr eitem honno fis Ionawr yn rhoi cyfle i Aelodau rannu unrhyw bryderon gyda chynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: