Manylion y penderfyniad
Theatr Clwyd - Constitutional Arrangements
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To report on the detailed constitutional
arrangements recommended for the Theatr Clwyd Board following
review.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Theatr Clwyd – Trefniadau Cyfansoddiadol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau cyfansoddiadol a llywodraethu ar gyfer y Theatr.
Roedd y Cylch Gorchwyl drafft wedi’i ddiweddaru wedi’i atodi i’r adroddiad.
Croesawodd y Prif Weithredwr Liam Evans-Ford i’r cyfarfod. Eglurodd Mr Evans-Ford mai hwn oedd yr ail gam yn yr adolygiad o drefniadau llywodraethu’r Theatr, ac roedd y cam hwn yn cynnig eglurder a sicrwydd. Roedd hefyd yn amlinellu sut roedd y Theatr yn gweithio gyda’r cwmnïau Cynhyrchu a gwaith y ddau is-bwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge ddiwygiad i’r adroddiad, sef y dylai Cadeirydd Bwrdd Theatr Clwyd fod yn Gynghorydd Sir. Yn dilyn ymatebion a roddwyd gan y Cynghorwyr Butler a Bithell, tynnodd y Cynghorydd Attridge ei ddiwygiad yn ôl.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sylwadau am gynhyrchiad llwyddiannus diweddar “The Assassination of Katie Hopkins” a oedd wedi ennill Gwobr Theatrau’r DU am y Sioe Gerdd Newydd Orau. Byddai hyn yn cael ei gydnabod mewn cyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo argymhellion Bwrdd Theatr Clwyd ar gyfer ei drefniadau cyfansoddiadol a llywodraethu.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 30/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 23/10/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/11/2018
Accompanying Documents: