Manylion y penderfyniad
Single Access Route to Housing (SARTH)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Allocations Policy for social
housing
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i ystyried y Polisi Dyraniadau ar gyfer tai cymdeithasol. Gwahoddodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod bod adolygiad o'r polisi SARTH wedi'i wneud yn 2017 yn dilyn blwyddyn gyntaf ei weithrediad. Nododd yr adolygiad fod angen diweddaru’r polisi i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Tai (Cymru) 2014. Fe wnaeth adolygiad o faterion a godwyd yn y panel gweithredol a'r gr?p llywio sefydlu nad oedd angen unrhyw newidiadau mawr i unrhyw un o egwyddorion allweddol y polisi. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid wybod fod y gofyniad am bolisi wedi’i ddiweddaru’n rhoi cyfle i ddatblygu dogfen a oedd yn haws i’w darllen a’i deall. Mae’r polisi diwygiedig (yn amgaeedig yn atodiad un), yn nodi ymrwymiad allweddol partneriaid at ddull rhanbarthol cyffredin tuag at ddyraniadau tai cymdeithasol.
Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ynghylch cydweithrediad rhanbarthol, galw am dai cymdeithasol, archwilio a thai arbenigol.
Rhoddodd y Cynghorydd Ian Dunbar sylw ar yr angen am ddatrysiadau tai addas i fodloni anghenion arbenigol a gofynnodd a oedd tai addas wedi’u darparu o stoc dai hen neu newydd. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod atebion wedi’u rhoi o gymysgedd o hen dai a rhai newydd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y gwaith cydweithredol a wnaed gyda Chyngor Sir Ddinbych, a gofynnodd a oedd rhagor o gyfleoedd i ddatblygu gwaith ar y gofrestr brysbennu a thai gydag awdurdodau lleol eraill. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod yr Awdurdod hefyd wedi cael incwm gan landlordiaid partner eraill a byddent yn olrhain unrhyw gyfleoedd i ehangu’r bartneriaeth i ragor o Gynghorau.
Holodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a oedd gwybodaeth wedi’i rhannu rhwng meysydd gwasanaeth yn yr Awdurdod, a nododd y Gwasanaethau Tai a'r Gwasanaethau Cymdeithasol fel esiampl, a sefyllfa pe bai eiddo’n dod yn wag oherwydd bod tenant wedi symud i gartref gofal. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd fod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod.
Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle ynghylch dyrannu tai cymdeithasol, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn gweithredu dwy gofrestr tai ar wahân. Rhoddodd wybod fod Sir y Fflint wedi bod yn rheoli’r gofrestr brysbennu a thai i Sir Ddinbych ers Ebrill 2017, a chyfeiriodd at y buddion niferus o gael Sir y Fflint yn cynnal y ddwy Gofrestr.
Cododd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon am y gwasanaeth brysbennu a chyfeiriodd at y cynnydd yn nifer y ceisiadau yn 2017/18. Rhoddodd sylw am nifer y ceisiadau blynyddol a holodd pa gefnogaeth a roddwyd i’r ymgeiswyr hynny nad oedd yn symud ymlaen i'r gofrestr tai. Rhoddodd sylw hefyd ar atebolrwydd democrataidd y Cyngor wrth ddarparu tai, a dywedodd nad oedd yn teimlo fod hyn wedi’i ysgrifennu yng nghylch gorchwyl y Polisi SARTH ac na chyfeiriwyd yn ddigonol ychwaith at rôl aelodau etholedig. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid sicrwydd fod pob ymgeisydd a oedd yn dweud eu bod nhw angen cymorth tai yn cael cefnogaeth, gwybodaeth ac yn cael eu cyfeirio at wasanaethau/asiantaethau eraill lle bo’n briodol.
Ceisiodd y Cynghorydd Heesom sicrwydd na fyddai’r gwasanaeth Tai’n cael ei gyflwyno fel ystyriaeth o ran model darparu amgen. Cadarnhaodd y Prif Swyddog nad oedd unrhyw gynnig o’r fath yn cael ystyriaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Wisinger at yr angen am dai arbenigol a nifer yr ymgeiswyr mewn angen dybryd yn Sir y Fflint. Rhoddodd sylw ar yr angen i weithio gyda datblygwyr eiddo a’r adran Gynllunio i gynyddu cyflenwad y stoc i fodloni anghenion aelwydydd gydag anabledd, neu a oedd angen eiddo mwy. Rhoddodd y Prif Swyddog wybod nad oedd yn rhaid i ddatblygwyr ddarparu eiddo wedi’u haddasu, fodd bynnag, fe wnaeth yr Awdurdod ddylanwadu ar fath a nifer yr unedau tai cymdeithasol drwy ei drafodaethau gyda datblygwyr ac yn seiliedig ar angen tai mewn ardal benodol; yn ogystal, gweithredwyd rheolyddion ymhellach drwy'r system gynllunio. Rhoddodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid wybod y byddai adroddiad llawn ar dai arbenigol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ddechrau 2019.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn parhau i gefnogi’r rheolaeth o’r polisi Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) yn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Katie Clubb
Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Dogfennau Atodol: