Manylion y penderfyniad

Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide an update on the progress made to date on the Council's Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP).

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) oedd yn rhoi’r manylion ar nifer y cynlluniau eiddo Rhent Cymdeithasol a Fforddiadwy wedi’u cwblhau a’u cynnig, ynghyd â diweddariad cyffredinol ar gynnydd a pherfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu manylion o newidiadau mewn angen o ran tai ers gweithredu SHARP am y tro cyntaf a’r sail resymegol ar gyfer arolygu ac adolygu'r rhaniad deiliadaeth ar gyfer yr eiddo i gael eu darparu ar gyfer gweddill y rhaglen. Adnabuwyd ffrydiau ariannu ar wahân sydd ar gael yn y dyfodol i SHARP ar gyfer datblygu eiddo Rhent Cymdeithasol a Rhent Fforddiadwy gan y Cyngor a North East Wales (NEW) Homes.

 

Mae Camau 1 a 2 o SHARP i gyd wedi’u cwblhau ac mae disgwyl i waith adeiladu ar gyn Ganolfan Melrose, Shotton, gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2018. Mae gwaith adeiladu ar safleoedd Cam 3 yn dechrau ym mis Medi a Maes Gwern, yr Wyddgrug; Llys Dewi, Penyffordd, Treffynnon; a chyn Depo’r Cyngor, Dobshill.

 

O ganlyniad i newidiadau polisi ynghylch Diwygio'r Gyfundrefn Les sydd wedi digwydd ers cynllunio cychwynnol o ddarparu adeiladau newydd SHARP, roedd y Cyngor yn gweld symudiad yn y math o alw am faint eiddo o’i gymharu â'r hyn â ddarparwyd yn flaenorol trwy dai cymdeithasol. O ganlyniad roedd galw sylweddol am eiddo nad oedd ar gael yn y stoc tai cymdeithasol neu'r sector rhentu preifat, gan gynyddu’r amseroedd aros a'r niferoedd ar y gofrestr tai, yn ogystal â chael effaith ar nifer y bobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref i’r Cyngor.

 

Mae’r trefniadau ar gyfer y cynlluniau o fewn y cam nesaf o’r rhaglen ar gyfer Eiddo Rhent Cymdeithasol ac Eiddo Rhent Fforddiadwy wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Os bydd yr holl gynlluniau hynny’n profi’n ymarferol i symud ymlaen i'r cam adeiladu, byddent yn darparu 135 o unedau ychwanegol. O ystyried y galw cynyddol am Dai Rhent Cymdeithasol ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD), cynigwyd bod y rhannu deiliadaeth gwreiddiol o 200 eiddo Rhent Cymdeithasol y Cyngor a 300 o eiddo Rhent Fforddiadwy yn cael eu hadolygu i adlewyrchu’r data angen o ran tai fel a ganlyn:

 

Deiliadaeth

Nifer Targed Gwreiddiol o Unedau

Nifer wedi’u Cwblhau / Cymeradwyo gan y Cyngor

Nifer o Unedau Ychwanegol Arfaethedig

Cyfanswm Nifer o Eiddo Arfaethedig

Amrywiant o’r Targed Gwreiddiol

Rhent Cymdeithasol Cyngor

 

200

173

134

307

+107

Rhent Fforddiadwy a Pherchnogaeth Cartref Cost Isel

 

300

120

11

131

-169

Cyfanswm

500

293

135

428

-72

 

Fel arfer da mae’r Cyngor wedi ymgymryd ag adolygiad o’r trefniadau yn eu lle i sicrhau fod pobl yn cadw at y prosesau a’r cytundeb, a hefyd yn parhau i adlewyrchu Gwerth am Arian, ynghyd ag unrhyw argymhellion ar gyfer gwersi wedi’u dysgu neu feysydd i’w hadolygu ymhellach a gwelliannau i’w gwneud.Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n barod ar yr argymhellion allweddol oedd wedi dod i’r amlwg yn yr adroddiad terfynol a dderbyniwyd ac mae manylion i’w cael yn adroddiad y Cabinet.

 

Manylion wedi’u darparu ar gyfer cyllid i SHARP yn y dyfodol, y Grant Tai Fforddiadwy a’r cap ar fenthyca ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r adolygiad o’r gymysgedd deiliadaeth i gwrdd yn well â'r galw. Cytunodd y Cynghorydd Bithell gyda hynny ond dywedodd ei fod wedi’i siomi nad oedd mwy o bobl leol wedi’u cyflogi trwy SHARP. Eglurodd y Prif Weithredwr bod prinder gweithwyr llafur medrus yn lleol a oedd ar gael neu gyda’r gymhwysedd angenrheidiol i weithio ar SHARP. Fodd bynnag, er bod y perfformiad ddim yn cwrdd â’r targed am wariant a llafur BBaCh yn Sir Y Fflint, wrth ystyried y targed wedi’i fonitro ar gyfer yr ardal leol, a oedd o fewn radiws o 40 milltir, roedd gwelliant sylweddol a’r targed wedi’i ragori.   Darparodd hefyd fanylion o'r Rhaglen 'Building Futures’ dan arweiniad Wates ac mewn partneriaeth â Chymunedau’n Gyntaf.  Mae’r rhaglen wedi’i gynllunio i roi hwb i yrfa pobl leol mewn adeiladwaith ac i gau’r bwlch i gyflogaeth.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Shotton y dylid cyflwyno eitem yn y dyfodol ar agenda’r Cabinet yn seiliedig ar effeithiolrwydd y Rhaglen ‘Building Futures’.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y sail resymegol am newid y gymysgedd deiliadaeth ar gyfer SHARP yn 303 eiddo Rhent Cymdeithasol arfaethedig a 197 eiddo Rhent Fforddiadwy ac Ecwiti a Rennir arfaethedig (yn ddarostyngedig i astudiaeth ddichonoldeb manwl, gwaith arfarnu a chymhwysedd benthyca cynyddol) yn cael ei gymeradwyo; a

 

(b)       Chymeradwyo i weithredu argymhellion yr Adroddiad Adolygiad.

Awdur yr adroddiad: Melville Evans

Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/09/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 04/10/2018

Accompanying Documents: