Manylion y penderfyniad
Community Asset Transfer – Overview of Progress
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide progress of all Community Asset Transfers that have progressed through Stage 2 Business Plan completion and therefore are either close to completion or have transferred.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Gwasanaethau Cymunedol) adroddiad yn manylu ar statws pob un o’r 30 Trosglwyddiad Asedau Cymunedol a oedd un ai wedi'u trosglwyddo neu'n agos at gael eu cwblhau.
Nodwyd mai blaenoriaeth y Cyngor oedd sicrhau bod trosglwyddiadau a oedd yn agos at gael eu cwblhau'n cael eu cwblhau a bod y rhai a oedd wedi'u trosglwyddo'n gynaliadwy yn y tymor hir. Rhannwyd gwybodaeth ar y tri cham trosglwyddo a’r gefnogaeth a oedd ar gael i ddod o hyd i broblemau’n gynnar a lleihau’r risg o fethu. Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw rai o’r trosglwyddiadau a oedd wedi’u gwneud yn profi anhawster. Roedd gwaith mentrau cymdeithasol yn cynnwys gwirio bod yr holl fentrau cymdeithasol yn iawn er mwyn cefnogi sefydliadau drwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol.
Rhoddodd y Rheolwr Asedau eglurhad i'r Cynghorydd Hutchinson yngl?n ag adeilad penodol ym Mwcle. Eglurodd na allai’r broses ond cychwyn ar ôl i sefydliad gyflwyno datganiad o ddiddordeb ac y gallai sefydliadau gael cyllid grant ychwanegol drwy drefniadau prydlesu.
Cydnabu'r Cynghorydd Paul Shotton y trosglwyddiadau asedau cymunedol llwyddiannus a oedd wedi'u cwblhau yn Sir y Fflint.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at ddau ased a oedd wedi’u trosglwyddo’n gynharach a gofynnodd i’r rhain gael eu hychwanegu at y rhestr o’r rhai a gwblhawyd. Soniodd bod Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn faes cyfrifoldeb allweddol a gofynnodd a oedd cymorth swyddog penodol wedi'i neilltuo i sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro'n ofalus. Dywedodd y Rheolwr Cyllid y byddai’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn rhoi ymateb a rhoddodd hithau sicrwydd bod cefnogaeth barhaus i'w chael, gan gynnwys gwiriadau. Atgoffodd y Rheolwr Asedau’r Pwyllgor yngl?n â’r cymorth annibynnol a oedd yn cael ei ddarparu gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint i sefydliadau drwy gydol y broses.
Gofynnodd y Cadeirydd i fanylion trosglwyddiad yr ased cymunedol ar gyfer Neuadd Bentref Carmel gael ei ychwanegu at y rhestr, yn dilyn gohebiaeth gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn croesawu'r gwaith a wnaed a’r cymorth a roddwyd i sefydliadau drwy'r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol.
Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton (old)
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dogfennau Atodol: