Manylion y penderfyniad

Minimum Unit Pricing

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu’r adroddiad er mwyn i Aelodau fod yn ymwybodol o Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

 

            Roedd deddf newydd a fyddai’n cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol yn Nghymru wedi’i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Roedd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn rhan o nod ehangach Llywodraeth Cymru (LlC) i leihau yfed yn ormodol, wrth gydnabod effeithiau hyn ar iechyd a lles pobl.

 

            I gloi, eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y byddai’r ddeddf newydd, pan fyddai wedi’i rhoi mewn grym, yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno isafswm pris am uned o alcohol a gyflenwir yng Nghymru.  Byddai’r ddeddfwriaeth yn targedu ac yn ceisio lleihau faint o alcohol sy’n cael ei yfed gan rai sy'n yfed nes peri perygl neu niwed iddynt eu hunain, gan gael cyn lleied o effaith â phosib' ar rai sy'n yfed yn gymedrol.  Byddai canllawiau’n cael eu rhoi a byddai LlC yn gweithio gyda mân-werthwyr, Awdurdodau Lleol a safonau masnach i baratoi i’w gweithredu yn haf 2019.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Martin White y Bil ac roedd yn gobeithio y byddai’n cael effaith gadarnhaol yn debyg i'r hyn a welid yn yr Alban, ond gofynnodd sut fyddai’n cael ei orfodi.  Soniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu am y manteision i iechyd a welwyd yn yr Alban ar ôl cyflwyno Bil tebyg. 

 

            Roedd y Cynghorydd Ralph Small yn pryderu yngl?n ag effaith y Bil ar dafarndai.  Cytunodd y Cynghorydd Brian Lloyd gyda’r sylwadau a dywedodd y byddai’r Bil o fantais i archfarchnadoedd lleol a siopau diodydd ac roedd yn pryderu yngl?n â’r effaith ar deuluoedd ag incwm isel.  Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y byddai LlC yn pennu'r isafswm pris am bob uned ar ôl ymgynghori eleni a phwrpas y ddeddf newydd oedd mynd i’r afael â phryderon penodol ers tro yngl?n ag effeithiau yfed gormod o alcohol – amcangyfrifwyd bod hyn yn costio dros £150 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y gallai cynyddu pris alcohol rhad gael effaith hefyd ar bris pob math o alcohol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2018

Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/06/2018 - Pwyllgor Trwyddedu

Accompanying Documents: