Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Corporate Resources Overview & Scrutiny Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Bod yr adroddiad alldro 2018/19 yn cael ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf.
· Bod yr adroddiad modelu tâl, yn cynnwys cais y Cynghorydd Woolley ar Holiaduron Gwerthuso Swyddi a Swydd- Ddisgrifiadau, yn cael ei drafod yn y cyfarfod mis Mai os yw’n bosibl.
· Cael gwared ar yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw o fis Mai i allu canolbwyntio ar gau’r cyfrifon yn fuan, ac i dderbyn diweddariad ar gyfalaf a refeniw ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Woolley y dylai ei awgrym blaenorol ar y Gofrestr Asedau fod yn eitem ar wahân i’r Cynllun Rheoli Asedau a oedd ei angen ym mis Hydref. Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Woolley rannu ei bryderon penodol os bydd adroddiad cynharach ei angen.
Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Johnson ar y Bwrdd Uchelgais Economaidd, dywedodd y Prif Weithredwr bod y gwaith craidd dan gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter. Awgrymodd bod y dull o graffu penderfyniadau allweddol ar Faterion Wrth Gefn i’w trafod gyda Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu ar ôl cytuno ar Benawdau'r Telerau yn ystod yr Haf.
Gofynnodd y Cynghorydd Johnson am drefniadau am graffu penderfyniadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chael adroddiadau gan gynrychiolwyr y Cyngor ar y grwpiau hynny. Dywedodd y Prif Weithredwr y dylid ystyried gweithgareddau penodol gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Awgrymodd i wahodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Prif Weithredwr i gymryd rhan mewn gweithdy Aelodau yn y dyfodol cyn seibiant mis Awst i gysylltu â gwaith y Cyngor ar y gyllideb.
Eglurodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn darparu adborth i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ar ganlyniadau'r cyfarfodydd cenedlaethol a fynychodd yn ei swydd fel Aelod Cabinet Addysg. Er yr oedd yn croesawu’r cyllid ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn yr ysgolion a'r costau ar gyfer pensiynau athrawon, cododd bryderon ynghylch y dyletswyddau ychwanegol sylweddol sydd yn cael ei roi ar ysgolion a chynghorau yn dilyn y diwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru a gyfeiriwyd ato yn yr eitem nesaf.
Croesawodd y Cynghorydd Heesom ddiweddariadau pellach ar y Cynnig Twf Gogledd Cymru ac anogodd yr holl Aelodau i gael mynediad wybodaeth am gyfarfodydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cydnabu bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cynnal y trosolwg a bod yn rhan o drafodaethau pan fo angen.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Axworthy.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 10/06/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/04/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/04/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: