Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Environment Overview & Scrutiny Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwyluswr Craffu a Throsolwg yr Amgylchedd y Flaenraglen Waith i’w hystyried.
Dywedodd yr Hwyluswr y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu ar y broses gorfodi amgylcheddol yng nghyfarfod y Pwyllgor i’w gynnal ar 27 Tachwedd.
Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin i gymariaethau costau’r gweithdai cyllideb gael eu darparu ar gyfer Parc Treftadaeth Greenfield Valley a Pharc Wepre.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi y byddai pob arbediad portffolio yn destun gweithdy cyllideb. Cadarnhaodd yr hwyluswr y byddai’r dyddiad yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Awgrymodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylai’r Pwyllgor gynnal cyfarfod arall ym Mharc Wepre a chytunodd y Pwyllgor i hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r Flaenraglen Waith yn cael ei diwygio;
(b) Y byddai’r Hwyluswr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 11/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: