Manylion y penderfyniad

Draft Statement of Accounts 2017/18

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the draft Statement of Accounts 2017/18 for Members’ information only at this stage.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Ddatganiad Cyfrifon drafft 2017/18 (testun archwilio) er gwybodaeth.  Roedd y datganiad yn cynnwys y cyfrifon Gr?p, gan gynnwys is-gwmnïau ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol.  Derbynnid y cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio ar 12 Medi i’w cymeradwyo a’u hargymell i'r Cyngor Sir ar yr un diwrnod, er mwyn eu cyhoeddi erbyn 15 Medi, a oedd cyn y dyddiad cau statudol ar gyfer cyhoeddi, i baratoi ar gyfer y graddfeydd amser newydd o 2018/19 ymlaen.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro – Cyfrifyddiaeth Dechnegol gyflwyniad ar y cyd yngl?n â'r materion canlynol:

 

·         Pwrpas a Chefndir y Cyfrifon

·         Cynnwys a Throsolwg

·         Cyfrifoldeb am y Cyfrifon

·         Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb

·         Penawdau – Cronfa'r Cyngor, Cronfeydd Wrth Gefn ar Ddiwedd y Flwyddyn, Cyfrif Refeniw Tai a Chyfalaf

·         Dangosyddion Perfformiad Ariannol

·         Newidiadau yng Nghyfrifon 2017/18

·         Prif Ddatganiadau

·         Gr?p Llywodraethu Cyfrifon

·         Cynnydd wrth fynd i’r afael â materion y llynedd

·         Amserlen a chamau nesaf

·         Effaith dyddiadau cau cynt ar fateroliaeth

 

Yn ystod y cyflwyniad pwysleisiodd y swyddogion mai dogfen gorfforaethol oedd y Datganiad a bod cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd bellach yn cael eu hystyried ar wahân ar y Rhaglen, yn sgil diwygio’r rheoliadau.  Byddai’r dyddiadau cau statudol cynharach o 2018/19 ymlaen yn golygu bod angen ystyried materiolaeth yn ofalus, ac y gallai fod yn rhaid defnyddio data a amcangyfrifwyd, gan sicrhau na fyddai hynny’n camarwain y darllenwyr.  Byddai pob Aelod yn medru codi cwestiynau yngl?n â’r cyfrifon gyda swyddogion dros yr haf cyn y cyflwynid y fersiwn terfynol wedi’i archwilio.

 

Holodd Sally Ellis yngl?n â goblygiadau’r cynnydd mewn dyledwyr tymor byr.  Esboniodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro y digwyddodd hynny’n bennaf oherwydd cyllid ar gyfer Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, ac nad oedd gofyn am gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer lleihad.  Byddai statws Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru fel dyledwr tymor byr yn newid wrth i’r cwmni ddatblygu.  Rhannwyd gwybodaeth hefyd am y dull o reoli'r ddarpariaeth ar gyfer lleihad drwy'r broses o Fonitro'r Gyllideb Refeniw.

 

O ran y dull cyfrifeg a ddefnyddiwyd ar gyfer safleoedd gwaredu gwastraff, esboniodd y swyddogion y gwnaethpwyd darpariaethau ar gyfer y gwaith cymhleth oedd yn mynd rhagddo dros gyfnod o amser yn safleoedd claddu sbwriel Standard a Brookhill.  Cadwyd rhywfaint o rwymedigaeth ddigwyddiadol fel y gellid ymdrin ag unrhyw broblemau, gan gynnwys unrhyw faterion yn codi o’r rhaglen waith ehangach i adnabod peryglon yn yr holl safleoedd claddu sbwriel.  Soniodd y Prif Weithredwr am waith y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon wrth sefydlu trefn gadarn i reoli risgiau ac anghenion safleoedd gwastraff nas defnyddiwyd mwyach.

 

Rhoddodd Matthew Edwards o Swyddfa Archwilio Cymru sicrwydd y cynhelid trafodaethau â’r swyddogion perthnasol yngl?n â'r cynnydd o ran safleoedd claddu sbwriel.  Roedd materion fel y rhain yn rhan o’r gwaith o archwilio’r cyfrifon, gan gynnwys dosbarthiad y safleoedd a’r rhwymedigaethau posib.

 

Pan ofynnodd Sally Ellis beth oedd y materion pennaf yr oedd y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon yn eu hystyried, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Gr?p yn fodlon y datryswyd y materion hynny a nodwyd mewn blynyddoedd blaenorol.  Soniodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro am werth y gr?p o ran ymgysylltu ag uwch-swyddogion i adnabod rhwymedigaethau digwyddiadol posib yn y dyfodol.  Soniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y Gr?p wedi medru rhoi sicrwydd yngl?n â materion yn y cyfrifon cyn eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi Datganiad Cyfrifon drafft 2017/18 (gan gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod fis Mehefin 2018); a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi y gellid trafod unrhyw agwedd ar y Datganiad Cyfrifon gyda swyddogion neu Swyddfa Archwilio Cymru gydol mis Gorffennaf, Awst a Medi, cyn i’r fersiwn terfynol wedi’i archwilio ddod yn ôl gerbron y Pwyllgor i’w argymell i’r Cyngor er mwyn i’r Cyngor ei gymeradwyo’n derfynol ar 12 Medi 2018.

Awdur yr adroddiad: Paul Vaughan

Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2018 - Pwyllgor Archwilio

Accompanying Documents: