Manylion y penderfyniad
Council Plan 2018/19 - mid-year monitoring report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider a mid-year summary of Council Plan performance prior to receiving a more detailed report at the next meeting.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol grynodeb lefel uchel o gynnydd canol blwyddyn ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 gan ddarparu dadansoddiad o feysydd sy'n tanberfformio sy'n berthnasol i'r Pwyllgor. Gwnaed cynnydd cadarnhaol o ran cyflawni camau gweithredu, mesurau a risgiau ar gyfer dros 80% o'r amcanion.
Oherwydd materion technegol, ni fu modd darparu'r atodiad manwl arferol ac felly trefnwyd adroddiad llawn ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr. Yn dilyn cais a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn flaenorol, roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad. Byddai hyn yn cael ei rannu yng nghyfarfod mis Ionawr, ynghyd â’r manylion ar ystod o wybodaeth perfformiad sydd ar gael i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i’w defnyddio ar gyfer adrodd ar berfformiad.
Cynigodd y Cynghorydd Jones y dylid gohirio ystyried yr eitem ymhellach tan gyfarfod mis Rhagfyr pan fyddai’r adroddiad llawn ar gael. Eiliwyd hyn a chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Y dylid gohirio ystyried yr adroddiad tan gyfarfod mis Rhagfyr.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: