Manylion y penderfyniad
Welsh Language Promotion Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To note and support the final draft of the Welsh Language Promotion Strategy incorporating feedback from consultation.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Polisi Strategol adroddiad gyda’r Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg bum mlynedd derfynol ar gyfer Sir y Fflint, i’w hystyried cyn cael ei mabwysiadu gan y Cabinet. Mae’n ofyniad ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gynhyrchu strategaeth i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg.
Rhoddwyd trosolwg o’r prif bwyntiau a gododd yn ystod y broses ymgynghori a oedd wedi creu ymatebion gan 157 o unigolion. Cafwyd cydnabyddiaeth, er mwyn cyflawni targed Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, y byddai’n rhaid i’r Cyngor weithio gyda phartneriaid amrywiol i hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Cydnabuwyd hefyd y gellir archwilio dull partneriaeth rhwng Sir y Fflint a Wrecsam i adeiladu ar waith fforwm presennol y Gymraeg er mwyn hyrwyddo strategaethau’r ddau Gyngor a rhannu’r hyn a ddysgir.
Wrth groesawu’r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Hessom at y diwydiannau creadigol a’r celfyddydau lle gallai mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg ffynnu. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai enghreifftiau o fentrau Cymraeg yn Theatr Clwyd ac mewn hybiau gael eu hadlewyrchu’n gliriach yn y Strategaeth.
O ran cyllid, cynghorwyd y Cynghorydd Bateman bod cyfleoedd i fanteisio ar grantiau yn cael eu hamlygu i fusnesau bach a sefydliadau gwirfoddol.
Talodd y Cynghorydd Johnson deyrnged i’r Cynghorydd Tudor Jones i godi proffil yr iaith Gymraeg i fusnesau bach a sefydliadau gwirfoddol.
Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r Cynghorydd Tudor Jones am godi proffil y Gymraeg a rhoddodd ganmoliaeth i’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr. Dosbarthwyd llythyr gan y Cynghorydd Jones i’r Pwyllgor lle diolchodd i Aelodau am eu cyfranogiad yn yr arolwg diweddar a oedd wedi creu canlyniadau cadarnhaol.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, cyn iddi gael ei mabwysiadu gan y Cabinet;
(b) Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi adolygiad o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Menter Iaith Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu fforwm isranbarthol er mwyn monitro a datblygu Strategaethau Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn y ddwy sir.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 01/05/2019
Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: