Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (outturn) and Capital Programme Monitoring 2017/18 (outturn)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

This report provides the revenue budget outturn position for 2017/18 for the Council Fund and Housing Revenue Account.’

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i ddarparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Alldro) ac Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Alldro) i'r Aelodau.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar sefyllfa Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Alldro) a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad.   Cyfeiriodd at sefyllfa gyffredinol Cronfa’r Cyngor a’r sefyllfa alldro terfynol fesul portffolio (yn amodol ar archwiliad).    Eglurodd mai sefyllfa'r gronfa yn gyffredinol oedd bod gwariant £2.107m yn is na’r gyllideb.   Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhesymau dros yr amrywiadau wedi’u crynhoi yn atodiad 2 yr adroddiad, gydag amrywiadau portffolio arwyddocaol wedi’u hegluro ym mharagraffau 1.04 i 1.09.   Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y prif ystyriaethau a chyfeirio at gyflawniad yr effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, Cronfa'r Cyngor, y cronfeydd wrth gefn a'r balansau, ceisiadau i gario arian ymlaen a'r Cyfrif Refeniw Tai.

 

            Tynnodd y Cynghorydd Haydn Bateman sylw at dudalen 41 yr adroddiad a cheisio eglurhad am strategaeth y gyllideb – cronfeydd wrth gefn cyffredinol.   Ceisiodd wybodaeth hefyd o ran pryd y byddai’r cyfleusterau cyhoeddus yn Stryd Newydd, yr Wyddgrug, yn cau.  

 

Ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gwestiynau pellach a godwyd gan yr Aelodau o ran y ffigyrau a ddarparwyd ar gyfer pobl ac adnoddau ym mharagraff 1.02 yr adroddiad, a’r ceisiadau i gario cyllid drosodd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru (LlC) i fynegi pryder y Pwyllgor fod grantiau’n cael eu darparu ddiwedd mis Mawrth.   Nododd y Prif Weithredwr yr achos cenedlaethol a thynnodd sylw at weithdy a gynhelir ar 23 Gorffennaf.   Awgrymodd efallai y byddai’r Aelodau yn dymuno aros tan ar ôl y gweithdy cyn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

            Cefnogodd y Cynghorydd Patrick Heesom y gwaith heriol a wnaed gan y Cynghorydd Richard Jones o ran materion sy’n ymwneud â’r gyllideb.   

            Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Alldro) a oedd wedi’i atodi fel Atodiad B i’r adroddiad.   Darparodd wybodaeth gefndir ac egluro bod tabl 1 ym mharagraff 1.03 yn nodi sut yr oedd y Rhaglen wedi newid yn ystod 2017/18. Nododd hefyd y newidiadau yn ystod y cyfnod hwn a arweiniodd at gynnydd net yng nghyfanswm y Rhaglen o £2.863m fel y nodwyd yn nhabl 2 yr adroddiad.   Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y gwariant cyfalaf o gymharu â’r gyllideb, yr hyn sy'n cael ei gario ymlaen i 2018/19, a chyllid cynlluniau cymeradwy 2017/18, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Haydn Bateman at dudalen fonitro cyllideb Cyfalaf Cynllunio a’r Amgylchedd a gofyn am wybodaeth yngl?n â lleoliad y Felin Flawd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r sefyllfa ac yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion i’w hadrodd ar lafar i’r Cabinet, heblaw i adrodd y bydd llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryder y Pwyllgor o ran darparu grantiau ddiwedd mis Mawrth.

 

Awdur yr adroddiad: Jonathan M Davies

Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: