Manylion y penderfyniad

Repairing Potholes and Preparing the Annual Carriageway Resurfacing Programme

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To inform Cabinet of the proposed planned maintenance programmes.





Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Trwsio Tyllau yn y Ffordd a Pharatoi’r Rhaglen Flynyddol o Ail-wynebu Ffyrdd, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglenni a gynigiwyd ar gyfer ail-wynebu ffyrdd yn 2018/19.

 

            Penderfynid yn ôl cyflwr y ffordd a’r tywydd a oedd hi'n gost effeithiol trwsio tyllau’n barhaol ynteu’u llenwi am y tro er diogelwch y ffordd. Rhoddwyd ystyriaeth i ragolygon y tywydd, swm yr adnoddau ar gael a chyflwr y rhwydwaith wrth gynllunio’r ymateb priodol o ran trwsio ffyrdd bob wythnos yn ystod y gaeaf.

 

            Yn ddelfrydol dymunai’r Cyngor barhau â’r sefyllfa bresennol, “Cyflwr Sefydlog”. Roedd yn ofynnol buddsoddi cyfalaf o £2,745,680 y flwyddyn i gynnal y sefyllfa honno. Ni fyddai buddsoddiad o’r fath ond yn cadw cyflwr y ffyrdd fel yr oeddent, a phrin oedd y Cynghorau yng Nghymru a fuddsoddodd i’r graddau hynny. Gwneid pob ymdrech i wneud y gorau o’r cyllid oedd ar gael ac i sicrhau y câi ei ddefnyddio i drwsio’r ffyrdd hynny'r oedd angen y sylw mwyaf arnynt.

 

            Roedd y Cyngor felly’n mynd ati’n ofalus i sicrhau’r buddion mwyaf posib wrth ddosrannu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cynnal a chadw ffyrdd, ynghyd â dosrannu cyfalaf y Cyngor.  Archwiliwyd pob ffordd wrth ddatblygu’r rhaglenni ail-wynebu, ac roedd y manylion ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Soniodd y Cynghorydd Roberts am y gwaith ail-wynebu oedd ar fin digwydd ar yr A548, gan ofyn am osod arwyddion i draffig oedd yn dynesu at yr A458 yn rhybuddio yngl?n ag oedi hir. Fel hynny gallai gyrwyr fynd ffordd arall a gellid cwtogi ar dagfeydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r rhaglenni ail-wynebu ffyrdd.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 28/06/2018

Dogfennau Atodol: