Manylion y penderfyniad

Welsh Ambulance Services

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

Presentation by Welsh Ambulance Services NHS Trust on ambulance performance in the Betsi Cadwaladr University Health Board area

Penderfyniadau:

            Croesawodd y Cadeirydd Andrew Long, Rheolwr Ardal y Gogledd, a Richard Lee, Rheolwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a gwahoddodd hwy i roi cyflwyniad ar berfformiad ambiwlansiau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

            Dywedodd Andrew Long mai pwrpas y cyflwyniad oedd egluro'r trawsnewid a oedd wedi bod yng ngwasanaethau ambiwlans Cymru, tynnu sylw at rai o'r datblygiadau cadarnhaol, ac egluro lle roedd angen gwneud mwy o waith. Dywedodd ei fod hefyd yn gyfle i rannu profiadau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o weithredu’r Model Ymateb Clinigol hyd yma, amlygu beth oedd wedi'i ddysgu wrth wneud hynny, ac edrych ar gyflwyno'r Model Ymateb Clinigol yng nghyd-destun newid sefydliadol a newid systemau ehangach. Dyma oedd prif bwyntiau’r cyflwyniad:

 

  • GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • amodau i newid – ein hamgylchedd gweithredu
  • cynllunio gwasanaethau ambiwlans mewn gofal heb ei drefnu
  • beth wnaethom ni?
  • symud o ymateb coch i felyn
  • sut mae’r dyfodol yn edrych i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’n staff a’n cleifion?
  • rhai sy’n galw’n aml
  • gwrando a thrin
  • effeithiolrwydd y ddesg glinigol a desg glinigol yn yr Heddlu
  • perfformiad, ymateb a galw
  • oriau coll mewn ysbytai
  • ffordd newydd ymlaen

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at y broblem lle’r oedd rhai’n galw’r gwasanaethau ambiwlans yn aml pan nad oedd arnynt angen triniaeth feddygol frys nac angenrheidiol. Soniodd am gynllun yn Lloegr lle’r oedd unigolion yn cael rhif ‘cyfaill’ i gysylltu ag o yn gyntaf i asesu’r alwad ac osgoi galw ambiwlans os nad oedd ei hangen. Cyfeiriodd Richard Lee at y fenter Galwyr Cyson i ddelio â rhai oedd yn galw’r Gwasanaeth Ambiwlans dro ar ôl tro ac fe enwodd enghraifft lle’r oedd rhywun wedi galw'r gwasanaethau brys 600 gwaith mewn blwyddyn.  Dywedodd ei fod angen cefnogaeth, ond nid triniaeth feddygol. Trafododd y dewisiadau eraill i’w hystyried cyn anfon ambiwlans os nad oedd angen triniaeth feddygol ar frys a chyfeiriodd at feddyg teulu, ymweliad gan nyrs gymunedol, cefnogaeth gan y trydydd sector neu ddarparu cludiant arall, fel enghreifftiau.  Dywedodd y bu llwyddiant wrth leihau y nifer o weithiau roedd ambiwlans wedi'i hanfon a dywedodd fod yr ystafelloedd rheoli’n atal tua 2,000 o achosion y mis lle nad oedd angen ambiwlans. Cyfeiriodd hefyd at y fenter 'Dod i fy ngweld' a oedd yn cynnwys anfon y gwasanaeth GIG 'cywir' i drin claf. 

 

Gan drafod amseroedd ymateb ambiwlansiau, dywedwyd wrth yr Aelodau bod llai nag 20 galwad i’r gwasanaeth ambiwlans yn achosion brys coch. Y targed ar gyfer galwadau coch oedd 7 munud 59 eiliad, a allai gynnwys ymatebwyr cyntaf cymunedol yn cyrraedd o fewn y cyfnod hwnnw. Manteisiodd y Swyddogion ar y cyfle i bwysleisio pa mor bwysig oedd gosod diffibriliwr ar adeiladau mawr fel Neuadd y Sir, sy'n gallu achub bywydau ac sy'n costio llai na £1,000.

 

Cyfeiriodd y Swyddogion at y cynnydd o ran hyfforddi uwch-ymarferwyr parafeddygol i ddarparu sgiliau ychwanegol i’r gwasanaeth a dywedwyd bod cyllid yn cael ei sicrhau ar hyn o bryd i ddarparu uwch-ymarferydd yng ngorsaf ambiwlans Dobbshill. Dywedodd y Cynghorodd McGuill, er bod un ymarferydd yn gam cadarnhaol, fod angen mwy o staff.Cytunodd y Swyddog fod angen datblygu'r gwasanaeth a dywedodd fod rhaglen addysg ar waith er mwyn i barafeddygon allu cael addysg ychwanegol ac roedd brwdfrydedd ymysg parafeddygon i fanteisio ar y rhaglen.

 

Holodd y Cynghorydd Ian Smith yngl?n â’r trefniadau dros y ffin â Lloegr.  Eglurodd Andy Long fod gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru drefniadau trawsffiniol da gydag Ysbyty Iarlles Caer a dywedodd mai’r ymagwedd at y dyfodol oedd mynd â llai o bobl i’r ysbyty a thrin mwy o bobl gartref a chynorthwyo pobl i adael yr ysbyty os oeddent yn ddigon da.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a fu cynnydd yn nifer yr achosion o ymosod ar staff. Dywedodd y Swyddogion na fu unrhyw gynnydd yn nifer yr ymosodiadau, ond, gan fod achosion wedi cynyddu o’r blaen, roedd rhai aelodau o staff yn gwisgo camerâu corff. Eglurodd y Swyddogion fod gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bolisi dim goddefiant tuag at drais ac ymddygiad camdriniol yn erbyn staff ac roedd strategaethau lles a mentrau a sgiliau eraill ar waith i warchod a chefnogi staff.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a oedd y gwasanaeth cyswllt ar gyfer codymau yn dal i gael ei ddarparu gan Wasanaeth Tân Gogledd Cymru. Dywedodd Rob Smith fod BIPBC wedi rhoi’r dasg hon i’r Tîm Asedau Cymunedol yng Ngogledd Cymru gan mai nhw oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth. Codwyd y mater yngl?n â chyllid a thrafodwyd heriau i’w datrys o ran cartrefi nyrsio a chartrefi gofal a'r angen i gydweithio â'r Bwrdd Iechyd i chwilio am ateb arall i'r cais i'r gwasanaeth ambiwlans ymateb i godymau.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd McGuill yngl?n â rôl y cymhorthydd codymau a sut y byddai’n cael ei darparu yn y dyfodol, eglurodd y Swyddogion y byddai rôl y cymhorthydd codymau'n parhau ac y byddai'n cael ei darparu'n briodol ym mhob ardal ddaearyddol, er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig, efallai y byddai system o wirfoddolwyr yn fwy addas. Cyfeiriodd y Cynghorydd McGuill at fenter lle mae cartrefi’n cael clustog codi y gellid ei ddefnyddio pe bai unigolyn yn cael codwm.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Andrew Long a Richard Lee am fod yno ac am ateb cwestiynau'r Aelodau'n fanwl.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cyflwyniad.

 

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2018

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents:

  • Welsh Ambulance Services