Manylion y penderfyniad

Governance Update.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Arweinwyd yr eitem hon gan Mr Latham a adroddodd bod popeth yn ei le ar gyfer GDPR.

O ran y Cynllun Busnes, roedd dau newid i’w nodi:

  • gohirio’r diweddariad yn y polisi Gwrthdaro Buddiannau
  • o ran staffio, byddai tair swydd yn cael eu creu (Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau, Swyddog Buddsoddiad a Swyddog Llywodraethu a Chefnogi Busnes) a byddai hen swydd y Rheolwr Cyllid Pensiynau yn cael ei dileu.

 

Mae gofyn i’r unigolion hyd fod yn brofiadol ac yn gwbl gymwys fodd bynnag; golygu hynny gost uwch. Gan hynny, gofynnir am gynyddu’r gyllideb staffio.

Gofynnodd Mr Hibbert a oedd gofyn i’r cyflogau fod ynghlwm wrth werthusiad graddfeydd cyflog / swyddi Cyngor Sir y fflint ynteu a fyddai modd darparu lefelau cyflog amgen.  Esboniodd Mr Latham bod hyn wedi’i drafod yng nghynhadledd y Gymdeithas Pensiynau ac Arbedion Gydol Oes (PLSA) yn ddiweddar gan fod pob Cronfa yn cael anhawster wrth recriwtio. Cadarnhawyd bod yn rhaid i’r broses recriwtio bresennol ddilyn proses gwerthuso swyddi Cyngor Sir y Fflint yn ogystal â graddfeydd cyflog y Cyngor, ond byddai modd gofyn am atchwanegiadau y farchnad.    Oherwydd bod AD a Llywodraethu yn rhan o’i bortffolio, dywedodd y Cynghorydd Mullin ei fod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle’r oedd y polisïau cyflogau presennol yn cyfyngu ar recriwtio a lle gellid defnyddio hyblygrwydd ar gyfer staff arbenigol.Dywedodd Mr Latham y bydd yn trafod y mater gyda’r Prif Weithredwr.

O ran cyflogau, nododd Mr Owen bod cyflogeion sy’n gweithio i’r Gronfa yn gyflogeion i Gyngor Sir y Fflint, felly byddai unrhyw newidiadau i gyflogau yn cael effaith ar gyflogeion Cyngor Sir y Fflint yn gyffredinol o dan y polisi.Byddai unrhyw newidiadau i gyflogau yn gyfrifoldeb i’r Cyngor yn hytrach na’r Pwyllgor a byddent yn cael eu pennu gan y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag eraill.  .

Amlinellodd Mrs McWilliam bod y gwaith o osod cyllideb y Gronfa yn cael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor sy’n golygu mai’r Pwyllgor ddylai benderfynu ar y costau sy'n gysylltiedig â staffio ond byddai’n rhaid i hyn gael ei gytuno yn unol â pholisïau'r Cyngor.Ychwanegodd Mr Ferguson, pe bai’r Gronfa yn mynd allan i’r farchnad i recriwtio, byddai angen dilyn polisi Cyngor Sir y Fflint.

Dywedodd y Cynghorydd Rutherford bod y Gronfa yn ymroddedig i statws sengl; gan hynny yr unig ffordd y gallent fynd y tu hwnt i raddfeydd cyflogau a bennir gan y gwerthusiad swyddi yw trwy atchwanegiadau ar gyfradd y farchnad.

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y byddai’r penderfyniad yn cael ei ddirprwyo i’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol. Byddai’r argymhelliad yn cael ei newid yn y cofnodion.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu cyfarfod Cadeirydd Pwyllgor Pensiwn Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun a chyfarfod Cadeirydd y Bwrdd ar 27 Mawrth a nododd bod y Gronfa mewn sefyllfa dda o ran Llywodraethu ac Arolygu yn gyffredinol.

Nododd Mr Hibbert yn y cyfarfod PLSA bod sesiwn ardderchog ar fuddsoddiad goddefol gan un o reolwyr gweithredol y Gronfa a oedd yn sôn am ganlyniadau anfwriadol buddsoddi goddefol. Roedd yn sôn am effaith ar farchnadoedd a chystadleuaeth o fewn marchnadoedd a newidiodd hynny rywfaint ar ei farn flaenorol yngl?n â buddsoddi goddefol.

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad Cynllun Busnes a rhoi unrhyw sylwadau.

 

(b)        Bod y Pwyllgor yn cytuno ar y ddau newid mewn perthynas â’r cynllun busnes h.y.

 

  • Eitem G3 – Gohirio cymeradwyo newidiadau i’r Polisi gwrthdaro buddiannau tan fis Medi 2018 (fel rhan o’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon)
  • Eitem G5 – Cynyddu’r gyllideb staffio ar gyfer y Tîm Cyllid i uchafswm o £60.6k y flwyddyn, a allai newid eto wrth i’r adolygiad o’r strwythur fynd rhagddo.Cytunodd y Pwyllgor bod unrhyw benderfyniadau yngl?n a newid pellach fel rhan o’r adolygiad hwn yn cael eu dirprwyo i Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiynau, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: