Manylion y penderfyniad
Draft Annual Governance Statement
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive for endorsement the annual revision
of the Annual Governance Statement
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y Datganiad Llywodraethu Blynyddol (AGS) 2017/18 i ystyried ei argymell i Sir Conwy i gyd-fynd â’r Datganiad Cyfrifon. Rhoddodd gyflwyniad yn ymdrin â'r canlynol:
· Cod Llywodraethu Corfforaethol
· Agwedd at adolygu
· Cynnwys
· Risgiau allweddol a dilyniant
Esboniodd Matthew Edwards yr arfer i Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) adrodd yn ôl ar fformat a chynnwys yr AGS a gymeradwywyd fel rhan o’r gwaith ar archwilio’r Datganiad Cyfrifon.
Siaradodd y Prif Weithredwr am y broses paratoi ar gyfer yr AGS sydd wedi dod yn fwy llym blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Croesawodd Sally Ellis y cysylltiadau â materion drwy gydol y flwyddyn, a oedd yn amlwg yn y ddogfen. Mewn ymateb i sylwadau ar feysydd tebyg a nodwyd i’w gwella yn 2016/17 a 2017/18, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o rai meysydd lle disgwylir gwelliant ac eraill lle na ellir lliniaru risgiau yn gyfan gwbl yn unrhyw sefydliad, er yr her llym. Awgrymodd y gallai swyddogion adlewyrchu ar feysydd sy’n lleihau o ran risgiau ac eraill sy’n digwydd bob blwyddyn i roi mwy o fanylder i’r Pwyllgor. Cytunwyd hefyd y bydd yr adroddiad cynnydd bob chwe mis yn cynnwys mwy o eglurder ar y meysydd risg hynny.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar derminoleg yn y ddogfen, cytunodd swyddogion i gynnwys y gair ‘cadarnhaol’ yn y frawddeg ‘ymgysylltu ag Undebau Llafur’ i adlewyrchu’r berthynas dda â’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor y dylid atodi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18 i’r Datganiad Cyfrifon.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 26/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2018 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: