Manylion y penderfyniad
Conduct and Convictions of a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver, and Breach of Conditions
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad ac euogfarnau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gofynnodd yr ymgeisydd a fyddai’n cael cywiro camddatganiad o fewn ei sylwadau ysgrifenedig wedi’i atodi i’r adroddiad. Eglurodd bod yr euogfarn diwethaf ar ei gofnod DVLA wedi’i dderbyn yn gynharach yn y flwyddyn oedd yn golygu bod ganddo naw pwynt ar ei drwydded ar hyn o bryd a dim erlyniadau eraill yn aros am ddedfryd.
Mynegodd y Cadeirydd bryderon am rybuddion a gyflwynwyd yn flaenorol i’r ymgeisydd, gan gynnwys methu datgelu troseddau a thorri amodau trwydded pellach. Yn ystod yr holi, manylodd yr ymgeisydd yr amgylchiadau oedd yn ymwneud â’r euogfarnau hynny.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at gofnod euogfarn yr ymgeisydd a gofynnodd a oedd ganddo broblem gyda goryrru. Wrth gydnabod y pwynt, eglurodd yr ymgeisydd ar bob achlysur, ei fod yn gyrru prin dros y terfyn cyflymder a’i fod wedi gwneud llawer iawn o filltiroedd yn ystod y cyfnod hwnnw. Dywedodd bod yr euogfarnau goryrru o ganlyniad i ddiffyg canolbwyntio ac nad oedd yn cludo cwsmeriaid ar yr adegau hynny. Mewn perthynas â’i euogfarn goryrru diwethaf ar ffordd gyda chamerâu cyfartafledd gyrru, ni fu’n ymwybodol o unrhyw arwyddion rhybudd ac nid oedd wedi herio hyn gan ei fod yn teimlo ei fod yn gorfod cyfaddef yr euogfarn. Ers hynny, roedd wedi gwneud nifer o newidiadau i wella ei fywyd a delio gyda materion iechyd.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, dywedodd yr ymgeisydd nad oedd unrhyw esgus dros oryrru a bod newidiadau i’w fywyd gwaith wedi'i helpu i ddeall ei gyfrifoldebau a chyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Roedd wedi llwyddo i gwblhau cwrs Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol yn ddiweddar i ail-addysgu ei hun a gwella ei sgiliau gyrru.
Gofynnodd y Cyfreithiwr pam bod yr ymgeisydd wedi methu ymateb i rybuddion blaenorol. Roedd yr ymgeisydd yn cyfaddef nad oedd wedi cymryd y troseddau mor o ddifrif ag y dylai a’i fod nawr yn gwerthfawrogi pwysigrwydd ei drwydded. Yn dilyn trafodaeth bellach, dywedodd ei fod wedi darllen yr amodau trwyddedu safonol yn ddiweddar ac roedd yn deall yn llwyr goblygiadau mynd yn groes i’r canllawiau.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad.
5.1 Penderfyniad ar y Cais
I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i sylwadau ar lafar ac ysgrifenedig yr ymgeisydd, a chanllawiau’r Cyngor ar ddelio gydag euogfarnau. O ystyried y rhybuddion a gyflwynwyd i’r ymgeisydd o’r blaen, roedd y panel yn bryderus ei fod yn ymddangos yn diystyru rheolau trwyddedu. Fodd bynnag, ar ôl ystyried yr esboniadau a roddwyd gan yr ymgeisydd a’r camau cadarnhaol a gymerwyd ers hynny, roedd y panel yn teimlo ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i barhau i gael Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni / Hurio Preifat (ar y cyd) yn amodol ar gyfnod prawf a chwblhau cwrs ymwybyddiaeth goryrru.
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod.
5.2 Penderfyniad
Eglurodd y Cadeirydd bod gan y panel amheuon am onestrwydd yr ymgeisydd oherwydd ei fod wedi methu ystyried rhybuddion a gyflwynwyd iddo ac o ystyried hanes ei euogfarnau. Ar ôl ystyried y sylwadau, cytunodd y panel y gallai barhau i gadw ei drwydded am gyfnod prawf o 12 mis ac y dylai gwblhau cwrs ymwybyddiaeth goryrru o fewn 8 wythnos gan dalu’r costau ei hun.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i barhau i gael Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni / Hurio Preifat. Mae hyn yn golygu cyfnod prawf o 12 mis oherwydd pryderon y panel am batrwm troseddau goryrru’r ymgeisydd a’i fethiant i ystyried rhybuddion. O ystyried hyn, dylai’r ymgeisydd gwblhau cwrs Ymwybyddiaeth Goryrru i safon foddhaol. Dylai gwblhau’r cwrs o fewn 8 wythnos o ddyddiad y gwrandawiad hwn a bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am yr holl gostau cysylltiedig. Ar ôl cwblhau, cyflwynir tystysgrif i’r ymgeisydd i fodloni Adain Drwyddedu'r Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 23/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 30/04/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/04/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu